| Cod y Modiwl | DD23310 | |||||||||||
| Teitl y Modiwl | CYFLWYNIAD I DDYLUNIO | |||||||||||
| Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||
| Semester | Semester 2 | |||||||||||
| Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau modiwl o`r tri canlynol:, DD10320 | |||||||||||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 6 Awr 6 x 2 awr | ||||||||||
| Sesiwn Ymarferol | 4 Awr 4 x 2 awr - Ymweliadau a'r theatr | |||||||||||
| Dulliau Asesu |
| |||||||||||
| Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml | |||||||||||
Ffurfiwyd y modiwl hwn yn arbennig i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel cyflwyniad i theori dylunio Set a Gwisgoedd a Goleuo a Sain. Yn ystod y darlithoedd fe`ch cyflwynir i egwyddorion sylfaenol y grefft o ddylunio ar gyfer theatre a pherfformio, a bydd cyfle hefyd i chi gyfrannu at sesiynau gweithdy er mwyn datblygu`ch dealltwriaeth o`r egwyddorion hynny ac ymestyn eich sgiliau ymarferol.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
^ cyflwyno dylunio yn y theatr fodern
^ diffinio a dadansoddi amryw swyddogaethau`r dylunydd yn y theatr fodern
^ ehangu`ch profiad o theatre fel digwyddiad trwy gyflwyno elfennau o waith gweledol a thechnegol
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC