Module Identifier GW10620  
Module Title CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL Y TRYDYDD BYD  
Academic Year 2003/2004  
Co-ordinator Dr Rita Abrahamsen  
Semester Semester 2  
Mutually Exclusive IP10620  
Course delivery Lecture   18 Hours (18 x 1 awr)  
  Seminars / Tutorials   8 Hours (8 x 1 awr)  
Assessment
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Supplementary Exam Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Learning outcomes

On successful completion of this module students should be able to:
Ar ol iddynt gwblhau''r modiwl, dylai''r myfyrwyr allu:

- asesu''n feirniadol ddefnyddioldeb y term y Trydydd Byd
- egluro rhai o''r ffyrdd y mae cysylltiadau Gogledd-De yn cael effaith ar faterion y Trydydd Byd
- amlinellu a dadansoddi amryfal effeithiau gwladychiaeth
- esbonio rhai o''r sialensiau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy''n wynebu cymdeithasau''r Trydydd Byd
- trafod yn feirniadol ystyr datblygiad ac egluro rhai sialensiau datblygu cyfoes
- trafod yn feirniadol ystyr diogelwch yn y Trydydd Byd ac egluro rhai sialensiau diogelwch
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Brief description

Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i rai o'r materion a'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud a safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Aims

Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i rai o'r materion a'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud a safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, a dangos sut y mae gwledydd y Trydydd Byd yn cael eu ffurfio gan eu rhyngweithiad a'r gyfundrefn ryngwladol ac i'r gwrthwyneb

Content

Rhennir y modiwl yn bump prif adran, gyda phob adran yn pwysleisio cysylltioldeb y Byd Cyntaf a'r Trydydd Byd fel y'u gelwir. Mae'r modiwl yn dechrau gyda thrafodaeth ar etifeddiaeth gwladychiaeth, un o'r profiadau sy'n gyffredin i gymdeithasau sydd ac eithrio hynny yn gwbl wahanol. Mae'r ail adran yn canolbwyntio ar sialensau gwleidyddol, megis creu gwladwriaeth, cipio awdurdod drwy rym milwrol a democratiaeth. Mae'r drydedd adran yn archwilio amryfal faterion yn ymwneud a datblygiad, megis newyn, gender a'r amgylchedd, tra mae'r bedwaredd adran yn canolbwyntio ar gyfres o sialensau economaidd, gan gynnwys yr argyfwng dyled. Mae'r bumed adran wedi ei neilltuo i faterion diogelwch, ac mae'n cynnwys darlithoedd ar benodolrwydd diogelwch y trydydd byd, lluosogi arfau a HIV/AIDS.

Transferable skills

Bydd sgiliau astudio yn cael eu dysgu I'r myfyrwyr drwy gyfrwng cymryd rhan weithredol mewn seminarau, a bydd hynny'n cael ei ategu gan gwricwlwm seiliedig ar y we a'r y fewnrwyd Adrannol (Adnodd Sgiliau Mewnrwyd). Bydd pedwar prif faes yn cael eu cynnwys: ffynonellau (argraffedig a rhai seiliedig ar y we; seminarau a gweithio mewn grwp bychan; traethodau; arholiadau. Bydd yr addysgu sgiliau yn ymarferol ac yn addas I'r tasgau y bydd y myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau, ac fel y cyfryw byddant yn cael eu cysylltu a chynnwys academaidd y modiwl ac ag asesiad y myfyrwyr. Bydd tiwtoriaid seminarau fel y cyfryw yn ymgymryd ag addysgu sgiliau fel y bo hynny'n addas I'r grwp arbennig hwnnw, yn hytrach na dilyn trefn anhyblyg. Felly gallai trafodaethau yn ymwneud a gwaith grwp ddigwydd yn gynnar yn y modiwl, gallai trafodaethau yn ymwneud a ffynonellau ddigwydd drwy gydol y modiwl tra byddai mater ysgrifennu traethodau yn cael sylw yn nes at amser cyflwyno'r gwaith. Bydd y dull llai strwythuredig o fynd ynglyn ag addysgu sgiliau yn cael ei ategu gan yr Adnodd Sgiliau Mewnrwyd a fydd yn cynnwys nodiadau ar amryfal faterion yn ymwneud a sgiliau, rhestr darllen ynghyd a chysylltau ag adnoddau eraill y Coleg (megis y Gwasanaethau Gwybodaeth) ac a safleoedd sgiliau sydd eisoes ar gael ar y we. Dylid nodi bod yr Adran wedi rhoi cynnig ar lawer o strategaethau addysgu sgiliau, ond mai siomedig fu'r canlyniadau, a gobeithir y bydd ymgorffori?r rhain yn rhan o drefn academaidd ddyddiol y myfyrwyr yn profi'n effeithiol

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd sylfaenol a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Notes

This module is at CQFW Level 4