Cod y Modiwl GW36720  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD ESTYNEDIG (AIL SEMESTER)  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Alistair J K Shepherd  
Semester Semester 2  
Rhagofynion GW36820  
Elfennau Anghymharus GW37720  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethodau: Mae'r Treathawd Estynedig yn 8,000-10,000 o eiriau gan gynnwyd troednodiadau a llyfryddiaeth  100%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Canlyniadau dysgu''r traethawd estynedig yw fod yn rhaid i''r myfyriwr gwblhau''r traethawd estynedig erbyn y dyddiad cau penodedig a chadw at y nifer geiriau a ddynodir. Yn ystod y broses, bydd myfyrwyr wedi dysgu i osod cwestiwn penodol, gwneud defnydd effeithlon o nifer cyfyngedig o sesiynau gyda''u cynghorwyr neilltuedig, cynnal gwaith ymchwil annibynnol, strwythuro''r ddadl a chyflwyno''r deunydd empiraidd yn effeithlon a chwblhau ysgrifennu''r traethawd estynedig yn unol a''r gofynion gwirioneddol a ffurfiol a ddisgwylir o draethawd estynedig ar lefel israddedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r traethawd estynedig yn elfen bwysig o raglen israddedig yr Adran. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr y flwyddyn olaf astudio mewn peth manylder bwnc penodol sy'n gysylltiedig a'u cynllun gradd. Fe'i cynlluniwyd hefyd i alluogi myfyrwyr i ddangos eu menter, eu gallu i weithio'n annibynnol a'u gallu i lunio dadl gydlynol a fydd yn para gryn hyd.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gymhwyso sgiliau a enillwyd ac a feithrinwyd mewn modiwlau a ddilynwyd yn flaenorol, yn enwedig IP36820, tuag at ysgrifennu traethawd estynedig. Mae'r modiwl yn profi gallu myfyrwyr i wneud peth gwaith ymchwil annibynnol, gan dderbyn peth cyngor gan aelod neilltuedig o staff, i ddatblygu cwestiwn penodol, strwythuro dadl a chynnal dadansoddiad o'r cwestiwn. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr arddangos gwybodaeth sylweddol yn y maes pwnc a ddewisir yn ogystal a'u sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi wrth gwblhau aseiniad ysgrifenedig sylweddol o ran hyd (8-10,000 o eiriau).

Cynnwys

Mae cynnwys y modiwl traethawd estynedig yn wahanol i bob myfyriwr. Mae myfyrwyr yn cynnig testun ar gyfer eu traethawd estynedig ac yna'n cytuno ar deitl terfynol ar y cyd a'r cynghorydd a neilltuir ar eu cyfer. Disgwylir iddynt gyflwyno traethawd sydd wedi ei strwythuro?n dda a?i ysgrifennu?n glir ac sy'n cyflwyno dadansoddiad o'r cwestiwn a ddewisir.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r modiwl traethawd estynedig yn disgwyl i fyfyrwyr gymhwyso a datblygu ymhellach y sgiliau canlynol:

- gosod nodau y gellir eu cyflawni sy'n ymwneud a'u dewis pwnc
- sgiliau ymchwil wrth gasglu ynghyd lenyddiaeth eilradd ac, yn rhai achosion, ffynonellau cynradd, mewn perthynas a'r pwnc penodol a ddewisir
- sgiliau Technoleg Gwybodaeth wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio (yn enwedig waith ymchwil trwy ddefnyddio'r rhyng-rwyd) ac wrth ddefnyddio prosesu geiriau wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig
- sgiliau rheoli amser wrth lunio cynllun ymchwil ac ysgrifennu ac yna wrth gwblhau'r traethawd estynedig erbyn dyddiad cau penodedig.
- Sgiliau dadansoddol wrth lunio'r ddadl a datblygu fframwaith dadansoddol
- Sgiliau ysgrifennu academaidd wrth ysgrifennu'r traethawd estynedig, gan gynnwys cydymffurfio ag agweddau ffurfiol ysgrifennu'n academaidd megis defnyddio troednodiadau, cyfeiriadau, a llunio llyfryddiaeth.

10 Credydau ECTS

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC