Cod y Modiwl HA36930  
Teitl y Modiwl HANES GWLEIDYDDOL PRYDAIN YN YSTOD YR UGEINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Steven Thompson  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir 2004  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus HY36930 , HY37830  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD X 2,500 O EIRIAU, 1 TRAETHAWD X 4,000 O EIRIAU  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu datblygiadau gwleidyddol ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;

Nodi ac esbonio newid a dilyniant gwleidyddol Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;

Gwerthuso?r gwahanol ffactorau a ddylanwadodd ar lywodraethau a phleidiau gwleidyddol ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;

Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus.

Disgrifiad cryno

Mae?r cwrs hwn yn cynnig rhagymadrodd i hanes gwleidyddol Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae?n arolygu?r prif ddatblygiadau gwleidyddol sydd wedi ffurfio Prydain yn y can mlynedd ddiwethaf ac mae?n eu lleoli nhw yn y cyd-destun ehangach o hanes economaidd, cymdeithasol a rhyngwladol Prydain. Bydd y cwrs yn archwilio?r trefniant a defnydd p?er gwleidyddol ym Mhrydain fodern; dylanwad pwysau oddi isod ac oddi allan i Brydain ar ei llywodraethau a?i phleidiau gwleidyddol; a?r canlyniadau o benderfyniadau a gweithredoedd gwleidyddol ar fywydau pobl gyffredin. Trwy gydol y cwrs, canolbwyntir ar y cwestiynau yngl?n a newid a dilyniant ac anogir y myfyrwyr i gwestiynu?r ffactorau sylfaenol o?r newid gwleidyddol o fewn cymdeithas fodern.

Nod

Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy?r Gymraeg yn Rhan Dau. Cyflwynir y myfyrwyr i rai o brif ddatblygiadau hanes modern Prydain ac ystyrir rhai o?r materion hanesyddol pwysicaf a ffurfiodd Prydain yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad
2. Yr Etifeddiaeth Fictorianaidd
3. T?f y Blaid Lafur
4. Diwygiadau Rhyddfrydwyr yr Oes Edwardiaidd
5. Y Rhyfel Byd Cyntaf
6. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched
7. Y Dirwasgiad Economaidd rhwng y Rhyfeloedd
8. Ffasgaeth yn ystod y Tridegau
9. Yr Ail Ryfel Byd
10. Creadigaeth y Wladwriaeth Les
11. Cwymp yr Ymerodraeth Brydeinig
12. Awdurdod y Ceidwadwyr, 1951-64
13. Cenedlaetholdeb Celtaidd
14. Gogledd Iwerddon
15. I Mewn i Ewrop: Prydain ac undeb Ewropeaidd
16. Diwedd y Consenws Gwleidyddol?: Prydain yn ystod y Saithdegau
17. Thatcher a Th?f y Dde Newydd
18. Chwalu y Deyrnas Unedig?: Datganoli ar Ddiwedd y Ganrif

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
D. Childs (1997) Britain since 1945: A Political History
Peter Clarke (1996) Hope and Glory: Britain 1900-1990
B. Coxall a L. Robins (1998) British Politics since the War
Sean Glynn a Alan Booth (1996) Modern Britain
P. Johnson (gol.) (1994) Twentieth Century Britain: Economic, Social and Cultural Change
Stephen J. Lee (1996) Aspects of British Political History, 1914-1995
W.R. Louis (gol.) (1999) The Oxford History of the British Empire
K. O. Morgan (1992) The People?s Peace: British History 1945-1990
K. O. Morgan (1981) Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980
Malcolm Pearce (2002) British Political History, 1867-2001: Democracy and Decline
M. Pugh (1999) State and Society: A Social and Political History of Britain 1870-1997
N. Tiratsoo (1997) From Blitz to Blair: A New History of Britain since 1939

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC