Cod y Modiwl |
DA39130 |
Teitl y Modiwl |
TRAETHAWD ESTYNEDIG DAEARYDDIAETH |
Blwyddyn Academaidd |
2004/2005 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Tony Jones |
Semester |
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Dr Rhys A Jones |
Rhagofynion |
|
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | Traethawd Hir: Traethawd estynedig (12,000 o eiriau). | 100% |
|
Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Uwchlaw pob dim mae''''r traethawd estynedig yn gyfle i wneud gwaith annibynnol. Mae''''n rhoi''''r cyfle i fyfyrwyr feithrin profiad o ddatblygu problem ymchwil effeithiol, o nodi cynllun priodol, o gywain data addas, o ddewis y dulliau neu''''r dechneg gywir i ddadansoddi''''r data, ac o ysgrifennu''''r astudiaeth mewn modd trefnus ac eglur. Dyma ffordd ddelfrydol o gymhwyso''''r cysyniadau, y medrau a''''r technegau a ddysgwyd yng ngwaith y cwrs a fu''''n fwyaf cyffrous i''''r myfyrwyr, ac y gallai fod yn sylfaen i yrfa arbennig, ac mae''''n fodd delfrydol hefyd o ddatblygu''''r rhain ymhellach.
Nod
Mae'r traethawd estynedig yn gyfle i fyfyrwyr gynhyrchu darn o waith ymchwil annibynnol, sylweddol sydd yn defnyddio cysyniadau a methodolegau addas o'r maes.
Cynnwys
Astudiaeth annibynnol ar thema a ddewisir gan y myfyriwr yw'r traethawd estynedig. Disgwylir i waith maes neu astudiaeth o ddeunydd gwreiddiol fod yn rhan bwysig ohono. Gellir cywain data mewn amryw ddulliau, megis samplo neu gynnal arolwg yn y maes, dadansoddi deunydd mewn labordy, arolwg o holiaduron, gwaith llyfrgell arbenigol mewn archifau neu ddeunydd o'r
cyfrifiad, gan ddibynnu ar y pwnc. Bydd gofyn i fyfyrwyr drafod amcanion a chynllun eu traethawd arfaethedig gyda staff yn gynnar yn ystod ail semester yr ail flwyddyn. Rhaid cyflwyno'r teitlau arfaethedig erbyn dyddiad y cytunwyd arno, a fydd yn gynnar ym mis Mawrth. Rhaid iddynt bod wedi paratoi a thrafod cynllun manwl gyda'r arolygwr a ddynodwyd erbyn diwedd yr ail semester. Rhaid i'r darn terfynol o waith beidio a bod yn fwy na 12,000 o eiriau, neu tua 50 tudalen o deipysgrif a gofod dwbl rhwng y llinellau, a rhaid ei gyflwyno erbyn diwrnod olaf dysgu yn yr ail dymor.
Rhoddir cyngor cyffredinol ar draethodau estynedig, ynghyd a manylion llawn am y rheoliadau ynghylch eu hysgrifennu, dyddiadau cyflwyno'r testunau a chyflwyno'r astudiaeth derfynol ynghyd a manylion am eu diwyg, mewn cyfarfod arbennig a gynhelir yn ystod semester cyntaf yr ail flwyddyn.
Fel arfer, ni fydd myfyrwyr Anrhydedd Cyfun yn cael dewis modiwl y traethawd estynedig.
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC