Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
-
Dangos dealltwriaeth o draddodiadau theatraidd yng Nghymru
-
Dadansoddi etstun dramataidd fel mynegiant o ddisgwrs theatraidd
-
Trafod a chyd-drafod y deunydd a gyflwynir yn y modiwl ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y dulliau traddodiadol academaidd
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig astudiaeth o draddodiadau theatraidd Cymru o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan nawdegau`r ugeinfed ganrif, fel y`u hamlygir drwy gyfrwng prif destunau dramataidd y cyfnod.
Nod
Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:
Datblygu ymwybyddiaeth o draddodiadau theatraidd Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Cyflwyno detholiad o brif destunau dramataidd Cymraeg a Chymreig y cyfnod rhwng 1880 a 1990.
Cyflwyno'r cysyniad o theatr fel strwythur cymdeithasol y mae'r testunau'n gyfrwng iddo.
Datblygu sgiliau dadansoddiadol a dehongliadol perthnasol.
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Stephens, Elan Closs (1986) Rhagarweiniad i Gwenlyn Parry
Panto
Davies, Hazel Walford (1997) Saunders Lewis a Theatr Garthewin
Gomer
Williams, Ioan Dramau J Saunders Lewis, Cyfrol I (1990), Cyfrol II (2000)
Gwasg Prifysgol Cymru
Jones, Dafydd Glyn (Gaeaf 1973) 'Saunders Lewis a Thraddodiad y Ddrama Gymraeg' yn Y Llwyfan
Cylchgrawn Cymdeithas Theatr Cymru
Rowlands, John (1988) John Gwilym Jones (cyfres Llen y Llenor)
Gwasg Pantycelyn
** Argymell Edrych Ar Hwn
Jones, R.M. (1975) Llenyddiaeth Gymraeg 1936-72
Christopher Davies
** Hanfodol
Jones, John Gwilym (1976) Ac Eto Nid Myfi
Dinbych: Gwasg Gee
Williams, Richard Conway Helynt Hen Aelwyd: Neu Helbul Taid a Nain (ar gael o`r Adran)
Francis, J.O. Change (ar gael o`r Adran)
Gruffydd, W.J. Beddau`r Proffwydi (ar gael o`r Adran)
Davies, James Kitchener (1994) Cwm Glo
Caerdydd: Cymdeithas Ddrama Cymru
Rees, William (Gwlliym Hiraethog) darnau eu dethol o Helyntion Hen Deiliwr (ar gael o`r Adran)
Lewis, Saunders Blodeuwedd
4ydd. Dinbych: Gwasg Gee
Parry, Gwenlyn (1979) Y Twr
Llandysul: Gwasg Gomer
Erthygls
** Testun A Argymhellwyd
Stephens Meic (Gol) (1979) 'Y Ddrama' gan Elan Closs Stephens yn Y Celfyddydau yng Nghymru 1950-1975
Cyngor Celfyddydau Cymru, 1979
Stephens, Elan Closs 'Gwenlyn' yn Taliesin
1988.
Jones, Dafydd Glyn (Gaeaf 1973) `Saunders lewis a Thraddodiad y Ddrama Gymraeg` yn Y Llwyfan.
Cylchgrawn Cymdeithas Theatr Cymru
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC