Cod y Modiwl | GF10110 | ||
Teitl y Modiwl | Y GYFUNDREFN GYFREITHIOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2004/2005 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Glenys N Williams | ||
Semester | Semester 1 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr Yn Saesneg | |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Awr Seminarau. Yn Gymraeg | ||
Exemptionau Professionalau | Dim yn angenrheidiol i Bwrpas Proffesiynol |
Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o''''r canlynol:
- seiliau damcaniaethol y gyfraith
? yr amgylchfyd cyfreithiol
Datblygir sgiliau dadansoddi ynghyd a dealltwriaeth o berthnasedd ac amherthnasedd.
O ran sgiliau a rhinweddau eraill, bydd myfyrwyr yn datblygu:
- sgiliau ymchwil annibynnol
- sgiliau llafar ac ysgrifennu
- darllen a dehongli gwybodaeth.
1. Cyflwyniad i'r gyfraith fel pwnc
(i) Astudio'r gyfraith.
(ii) Hanes cryno o ddatblygiad a ffynonellau'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(iii) Gwahaniaethau a chategoriau'r gyfraith.
2. Braslun o Gyfundrefn y Llysoedd
(i) Patrwm y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Y gyfundrefn apelio sifil a throseddol.
(iii) Diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Trefniadaeth Sifil 1997.
3. Cyfraith a Ffaith
(i) Pwysigrwydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith mewn damcaniaeth ac arfer.
(ii) Cymharu cyfundrefnau ymchwiliadol a gwrthwynebiadol.
4. Cyfraith Achosion a Chyfundrefn Cynseiliau
(i) Y rhan y mae cyfraith achosion yn ei chwarae yng nghyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr
(ii) Cymharu a chyfundrefnau cyfreithiol eraill.
(iii) Cyfundrefn cynseiliau Lloegr ar waith.
(iv) Cynseiliau yng nghyd-destun Ewrop.
5. Deddfwriaeth a Dehongliad Statudol
(i) Patrwm Mesurau.
(ii) Y broses ddeddfwriaethol.
(iii) Rheolau dehongliad statudol a chynorthwyon eraill i ddehongli.
(iv) Effaith Deddf Hawliau Dynol 1998.
6. Tribiwnlysoedd a Dulliau Eraill o Ddatrys Anghydfod
(i) Categoriau o dribiwnlysoedd.
(ii) Gwahanol ddulliau o ddatrys anghydfod.
(iii) Diwygiadau.
7. Cael Cyfiawnder.
(i) Brasolwg o'r hen gyfundrefn Cymorth Cyfreithiol.
(ii) Y darpariaethau ariannol newydd; Deddf Mynediad i Gyfiawnder 1999.
(iii) Diwygiadau parhaol yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
8. Y Proffesiwn Cyfreithiol a Swyddogaeth y Rheithgor yn y Gyfundrefn Gyfreithiol.
(i) Swyddogaethau'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Swyddogaeth y Rheithgor.
(iii) Y Mesur Cyfiawnder Troseddol 2002 a'r berthnasedd.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC