Cod y Modiwl GW11220  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Elin Royles  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Elin Royles  
Elfennau Anghymharus IP10220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Awr (20 x 1 awr)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr (8 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Ar ol i fyfyrwyr gwblhau?r modiwl dylent gallu trafod y canlynol mewn modd ddeallus a beirniadol:

- tarddiad y wladwriaeth a pherthynas y wladwriaeth a syniadau/arferion cysylltiedig megis sofraniaeth a chenedlaetholdeb;
- natur grym mewn gwleidyddiaeth gyfoes ac ymdrechion i ffrwyno a chyfeirio grym trwy ddulliau democrataidd;
- tarddiad cyfalafiaeth a dadleuon cyferbyniol parthed `naturioldeb? a chyfiawnder y gyfundrefn gyfalafol; a,
- y prif ddulliau astudio a ddefnyddir gan y sawl sy''''n astudio gwleidyddiaeth.

Yn ogystal, trosgwlyddir nifer o sgiliau sylfaenol i fyfyrwyr er mwyn gwella eu gallu i astudio?r pynciau hyn ac i gyfathrebu ffrwyth eu gwaith.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r astudiaeth o wleidyddiaeth

Nod

Bwriad y modiwl yw roi cyflwyniad i'r astudiaeth a dadansoddiad o weithgaredd gwleidyddol, ac yn benodol i'r berthynas rhwng syniadua, sefydliadau, prosesau, strwythurau a gwerthoedd yn y maes gwleidyddol. Bydd yn modiwl yn cyflwyno amrywiaeth o offer dadansoddi i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i archwilio'r gydberthynas rhwng sefydliadua, syniadaeth a thraddodiadau gwleidyddol ar y naill law a threfniadath llywodraeth, systemau gwleidyddol a ffurfiant polisi ar y llaw arall.

Cynnwys

Ar ol rhoi sylfaen ddechreuol i gysyniadau cyffredinol gwleidyddiaeth a grym, bydd y cwrs yn archwilio dulliau damcaniaethol detholedig o fynd ynglyn a tharddiad y wladwriaeth, priodoleddau cyfansoddol y natur ddynol ac ystyr a maint rhwymedigaeth wleidyddol. Dilynir hyn gan ddadansoddiad o ryddid, cydraddoldeb a chenedlaetholdeb, ynghyd a'u cydberthynas a'r wladwriaeth ac ag iaith a'r dull o ymdrin a gwrthdaro geiriol gwleidyddol. Rhoir sylw manwl i achosion a chanlyniadau'r norm democratig rhyddfrydol. Yna bydd y cwrs yn mynd rhagddo i dalu sylw manwl i thema systemau gwleidyddol ac yn arbennig i archwiliad o'u strwythurau, eu prosesau a'u swyddogaethau. Bydd yr elfennau canlynol yn cael sylw - cyfansoddiadau, llysoedd, cyrff deddfwriaethol, adrannau gweithredol, etholiadau, pleidiau a llunio polisi. Bydd yr adran nesaf yn rhoi sylw i themau systemau gwleidyddol dan straen. Bydd yn cynnwys yr anhawster o greu systemau gwleidyddol sefydlog mewn cenhedloedd annibynnol newydd, y sialensiau sy'r dod yn sgil llywodraethau awdurdodaidd a llygredd, a'r problemau sy'n cael eu creu gan orymyrraeth y wladwriaeth ac, yn y gorffennol, gan ideoleg totalitaraidd. Bydd yr adran olaf yn edrych ar arwyddocad syniadau newydd (e.e. ffeministiaeth, y meddylfryd gwyrdd), materion newydd (dinasyddiaeth, integreiddiad rhanbarthol) a datblygiadau newydd (e.e. mudiadau cymdeithasol newydd, e-ddemocratiaeth) i gadwraeth a dilysrwydd y norm democrataidd rhyddfrydol

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu I ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Cant eu hannog i ennill gwybodaeth ac i'w gysylltu a thasgau penodol. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau rhifedd a hunanreoli sylfaenol. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi. Byddant yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC