Cod y Modiwl HC10220  
Teitl y Modiwl HANES Y GYMRU FODERN 1850-1997  
Blwyddyn Academaidd 2004/2005  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Aled G Jones  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Owen G Roberts  
Cyd-Ofynion HC10120 Rhaid i fyfyrwyr Anrhydedd Cyfun Hanes Cymru gymryd HC10120 hefyd  
Elfennau Anghymharus WH10220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  60%
Asesiad Semester Traethodau: Marc asesiad wedi ei seilio ar ddau draethawd x 2,500 o eiriau40%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
O gwblhau?r cwrs mi ddylai myfyrwyr fedru:-
a) enwi ac esbonio?r prif ddadleuon hanesyddiaethol ynglyn a newid gwleidyddol a chymdeithasol yng Nghymru yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a?r ugeinfed ganrif; b) dangos eu gwybodaeth o ystod eang o brosesau a mudiadau cymdeithasol, a rol allweddol unigolion a mudiadau, yn nhrawsnewidiad Cymru fodern; c) ymdrin yn feirniadol a rol y prif bleidiau gwleidyddol yng ngrhread gwleidyddiaeth a llywodraeth neilltuol Gymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif; ch) astudio a gwerthuso ystod o ffynonellau crai yn ymwneud a Chymru fodern; d) casglu ac ymdrin a ffynonellau hanesyddol priodol; dd) datblygu a chynnal dadleuon hanesydol ? yng ngwaith llafar ac ysgrifennedig; e) weithio yn unigol ac fel rhan o grwp, ac i gyfrannu i drafodaethau grwp.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hon yn rhoi cyflwyniad cryno i hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru o 1850 hyd 1997. Gan gychwyn gydag astudiaeth o ddominyddiaeth Rhyddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i astudio cyfnod cythryblus, gyda newidiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymhleth a phell-gyrhaeddol. Bydd y ffocws eang hwn yn galluogi myfyrwyr i drafod cwestiynnau'r ymwneud a newid, ideoleg a hunaniaeth, a fydd yn gosod sylfaen ar gyfer astudio hanes Cymru fodern yn Rhan Dau yn unrhyw un o'r cynlluniau gradd Hanes Cymru. Cynnigir y modiwl yn Gymraeg ac yn Saesneg bob blwyddyn, ac mae'r agored i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Yn hynny o beth, bydd y cwrs yn gosod sylfaen gref ar gyfer modiwlau Hanes Cymru yn Rhan Dau.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Hywel Francis a Dai Smith (1980) The Fed: A History of the South Wales Miners in the Twentieth Century
Ieuan Gwynedd Jones (1992) Mid-Victorian Wales: The Observers and the Observed
K. O. Morgan (1981) Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980
John Davies (1993) Hanes Cymru

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC