Cod y Modiwl AP10220  
Teitl y Modiwl GWEITHIO GYDA'R CORFF  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Margaret P Ames  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Eraill   Sesiynau ymarferol profiadol 10 x 2 awr  
  Eraill   Sesiynau technegol ffurfiol 10 x 1 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1. Llawlyfr Nodiadau Ysgrifenedig (cyfwerth â 2500 o eiriau) 50%
Arholiad Semester 2. Cyflwyniad Ymarferol (15 munud) o waith corfforol unigol. 50%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol o'r asesiad, rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedi'i methu, rhaid ail-gyflwyno'r holl elfennau a fethwyd. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

1. arddangos gallu i baratoi'r corff yn ddiogel a thrylwyr ar gyfer gwaith corfforol mewn dosbarth technegol
2. cynnig prawf o'u datblygiad wrth ddefnyddio medrau corfforol
3. dangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff a defnyddio'r ymwybyddiaeth hon mewn modd creadigol a deallus
4. dangos ymwybyddiaeth o'r angen am ddisgyblaeth a pharch tuag at yr ymarferion, y paratoi a'r perfformio

Nod

Bydd y modiwl yn ymgais i egluro egwyddorion anatomig sylfaenol y corff er mwyn hyrwyddo ymarfer diogel a dealltwriaeth dwysach o'r corff tra'n creu gwaith perfformio. Fe fydd yn cynnig rhagarweiniad sylfaenol i waith corfforol ymarferol mewn Astudiaethau Perfformio.
Trwy ddilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn dysgu egwyddorion symud sydd yn sicrhau datblygiad deallusol a chorfforol, megis cyfliniad y corff, swyddogaeth cymalau a chyhyrau, cysylltiadau rhwng systemau symudedd corfforol, a phwysigrwydd cynnal ymarfer corfforol sylfaenol yn gyson. Mae'r agwedd hon tuag at baratoi perfformwyr yn seiliedig ar ddisgyblaeth dawns a theatr gorfforol a fydd yn tynnu ar waith amlddisgyblaethol o nifer o ffurfiau megis dawns gyfoes, ioga, anatomi profiadol ('experiential anatomy') a byrfyfyrio

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Sesiynau:

1a. (2 awr) 'Pwy ych chi' - sesiwn ymarferol yn seiliedig ar ganfyddiad yr unigolyn o'i hunan (oedran, golwg, cerddediad, ymwybyddiaeth o'r gofod a.y.b.)
1b. (1 awr) Gwaith corfforol technegol

2a. Disgyrchiant - sesiwn ymarferol i arbrofi gyda phwysedd y corff tra'n sefyll, eistedd a gorwedd ac i egluro sail cyfliniad y corff.
2b. Gwaith corfforol technegol

3a. Asgwrn y Cefn - sesiwn ymarferol i ddysgu am anatomi 'y sgerbwd echelinol' - asgwrn y cefn a'r penglog - mewn perthynas â disgyrchiant.
3b. Gwaith corfforol technegol

4a. Yr Anadl - sesiwn ymarferol i feddwl am yr anadl fel proses sy'n hyrwyddo symud, ynghyd â pheirianwaith anadlu a'i bwysigrwydd i'r system gyfan.
4b. Gwaith corfforol technegol

5a. Paratoi'r corff - sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o'r ymarferion wedi'u cynllunio i gynhesu'r cyhyrau a rhyddhau'r cymalau gan bwysleisio ymarfer diogel.
5b. Gwaith corfforol technegol

6a. Gweithio o'r Canol - sesiwn ymarferol a fydd yn datblygu gwaith paratoi'r corff ac yn edrych ar sadrwydd y Canol trwy dargedu cyhyrau dwfn.
6b. Gwaith corfforol technegol

7a. Gweithio gyda Phobl Eraill - sesiwn ymarferol i ddechrau cyfuno'r egwyddorion a gyflwynwyd eisoes. Bydd myfyrwyr yn arsylwi ar eu gweithgarwch corfforol ei gilydd er mwyn dysgu am weithredoedd y cyhyrau.
7b. Gwaith corfforol technegol

8a. Byrfyfyrio - sesiwn ymarferol lle defnyddir yr wybodaeth am egwyddorion Disgyrchiant ac Anadl wrth greu a dadansoddi gwaith symud.
8b. Gwaith corfforol technegol

9a. Byrfyfyrio 2 - Cyfuno'r holl egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y modiwl er mwyn herio'r unigolyn i symud yn ôl ysgogiadau anatomig.
9b. Gwaith corfforol technegol

10a. 'Pwy ych chi nawr'(2) - sesiwn ymarferol/seminar i ddychwelyd at y gwaith cyntaf a dadansoddi newidiadau o ran agwedd, ymwybyddiaeth a phrofiad.
10b. Gwaith corfforol technegol

Disgrifiad cryno

Bwriad y cwrs yw paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith corfforol mewn nifer o dechnegau a dulliau gwahanol. Bydd y paratoad hwn yn pwysleisio agwedd broffesiynol a diogel wrth weithio¿n gorfforol, ac yn amlygu'r pwysigrwydd o ystyried gweithrediad y corff o safbwynt mewnol (yn ôl y profiad) ac allanol (yn ôl effaith). Nod y gwaith hwn fydd dwyshau ymrwymiad a pherthynas y myfyrwyr gyda'r gwaith perfformiadol yr ymgymerant ag ef.

Bydd yr ymarferion a gyflwynir yn ystod y sesiynau dysgu yn cynnig patrwm gwaith corfforol ond hefyd yn pwysleisio ymwybyddiaeth ddeallusol er mwyn datblygu gallu a rheolaeth gorfforol. Bydd y cwrs yn defnyddio geirfa benodol ac yn cyflwyno termau anatomig wrth drafod rhai darnau o'r corff. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am swyddogaethau rhai o'r prif gyhyrau ac yn datblygu medrau dadansoddi gweithredoedd y cyhyrau trwy gyflawni symudiadau syml.

Yn y sesiynau ymarferol 2 awr, fe fydd disgwyliad i'r myfyrwyr ymrwymo i broses o ddarganfod trwy arbrofi. Cyflwynir cyfres o ymarferion i hyrwyddo ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r corff ac i bwysleisio'r broses o newid corfforol a fydd yn digwydd yn ystod cyfnod y modiwl ei hun. Yn ogystal â'r sesiynau hyn, cynhelir seisynau 1 awr o waith technegol. Cyflwynir y sesiynau hyn mewn dull ffurfiol o dan arweiniad tiwtor y modiwl, ac fe fyddant yn cyflwyno ymarferion o'r maes dawns cyfoes, ioga a ffitrwydd. Y nod wrth gyflwyno dau fath gwahanol o sesiwn ymarferol fydd sicrhau bod y gwaith anatomig profiadol yn bwydo dealltwriaeth a medrau'r myfyrwyr yn ystod y sesiynau ffurfiol, a bod y sesiynau hyn yn cynnig cyfle i ddatblygu hyfforddiant personol cyson.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Bydd elfen o ddatrys problemau yn rhan o gynnwys pob ymarfer. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio'r egwyddorion anatomig er mwyn datrys problemau megis cydbwysedd, ymdrin â'r gofod, grym a phwrpas tra'n symud yn effeithiol.  
Research skills Fe fydd ymchwil personol yn sail i waith y modiwl. Disgwylir i'r myfyrwyr arsylwi a dadansoddi datblygiad eu proses mewnol a'u hymwybyddiaeth unigol, yn ogystal â'u goblygiadau tuag at bobl eraill. Cryfheir gwaith yr unigolyn yn sylweddol yn ystod y modiwl wrth iddynt ymchwylio'n bellach i swyddogaeth y corff ym maes anatomi ac wrth ddod â dealltwriaeth ddyfnach i'r gwaith sydd yn ganlyniad i ymchwil personol.  
Communication Bydd pob elfen o'r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng yr unigolyn a phartneriaid, a'r grwp cyfan. Bydd y gwaith yn pwysleisio cyfathrebu sensitif a deallus, gan ddefnyddio gwybodaeth wedi'i derbyn trwy gyffwrdd a gweld, yn ogystal â darllen a gwrando. Mae¿n hanfodol bod y myfyrwyr yn datblygu medrau cyfathrebu sy'n galluogi dealltwriaeth o'r corff ac sydd yn berthnasol ac yn gefn i'r unigolyn. Fe fydd cyfathrebu yn rhan bwysig o holl asesiadau'r modiwl, felly, ond nid asesir cyfathrebu fel elfen annibynnol per se.  
Improving own Learning and Performance Er bod datblygu a gwella medrau perfformio a dysgu yn un o brif amcanion y modiwl hwn, nid asesir yr elfennau hyn yn benodol ac uniongyrchol yn y modiwl  
Team work Ni fydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar waith tîm, ond fe fydd yn ysgogi agwedd bositif tuag at bobl eraill a'u galluoedd. Fe fydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn yn arbrofi fel unigolion ac fel grwp, a bydd sylwadaeth a chyfathrebu yn rhan annatod o'r gwaith  
Information Technology Ni fydd y medrau hyn yn rhan o'r modiwl. mae'r sesiynau yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar y corff heb ddefnyddio cyfryngau eraill.  
Personal Development and Career planning Fe fydd datblygiad personol yn rhan hollbwysig o waith y modiwl ond ni fydd y gwaith yn arwain yn uniongyrchol at ystyriaethau gyrfaol. Bydd pob unigolyn yn manteisio ar wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o¿u hunain a bydd hyn yn hybu eu gwaith perfformio  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Blakey, P The Muscle Book
Hamilton, N a Luttgens, K (2002) Kinesiology Scientific Basis of Human Motion McGraw-Hill
Millward, A. (1998) Y Corff Gomer
Olsen, A a McHose, C Body Stories
Todd, M.E (1997) The Thinking Body Dance Books
Tufnell, M; Crickmay, C. (1990) Body Space Image Virago

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC