Cod y Modiwl DA22110  
Teitl y Modiwl TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 2  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Henry F Lamb  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Aled P Rowlands, Dr Rhys A Jones  
Cyd-Ofynion Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer  
Elfennau Anghymharus GG22110  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 (bob yn ail wythnos dros y ddau semester)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith Cwrs: Seiliwyd y dull asesu ar system raeadru y Coleg a ddefnyddir i bennuch gradd. Rhoddir pwysiad credyd o l i bob aseiniad, ar wahan ir papur ymchwil Anrhydedd Cyfun sydd a phwysiad credyd o 2, ac a fydd felly yn cael ei osod i mewn ddwy waith. Caiff eich marc cyfan felly ei gyfrif yn unol ar fformiwla canlynol:- (Dau farc uchaf x 3) + (Dau farc nesaf x 2) + (Dau farc isaf x 1) wedi eu rhannu a 12. Dylai myfyrwyr nodi bod mynychu dosbarthiadau tiwtorial yn orfodol, yn ogystal a chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau a osodir gan y tiwtor. Dylid cytuno ymlaen llaw gydar tiwtor ar unrhyw absenoldeb, a dylid rhoi gwybod iddo/iddi yn syth am unrhyw salwch. Daw trefn ddisgyblu i rym am absenoldeb nad ywn cael ei egluro. Bydd cyflwyno aseiniadau yn hwyr heb achos da ac heb ganiatad y tiwtor ymlaen llaw yn dwyn yn ei sgil gosbau fel a nodir ar dudalen 4.100%
Asesiad Ailsefyll Bydd myfyrwyr syn methur modiwl fel arfer yn cael ailsefyll, ac felly bydd yn rhaid ail-gyflwyno aseseiniadau a fethwyd a chyflwyno unrhyw aseniadau na chyflwynwyd. Bydd marciau am yr aseiniadau a aseswyd eisoes, syn 35% neu fwy, yn cael eu cario ymlaen. Os na fydd amgylchiadau arbennig (e.e. salwch), y marc mwyaf y gellir ei gael ar aseiniadau a gyflwynir iw ailsefyll fydd 35%. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


Amlinelliad o'r modiwl

Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n gwneud cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.

Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.

GWAITH CWRS ACADEMAIDD

Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yndatblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwptiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.

SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:

Bydd y sgiliau astudio hyn yn cael eu datblygu trwy gyfrwng gwaith prosiect, fel a nodir isod.

RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.

Yn ystod yr ail semester, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar drafod theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar baratoi am astudiaeth ddaearyddol annibynnol. Pwysleisir y berthynas sydd rhwng y ddau gynllun yma. Anogir y myfyrwyr hefyd i weld arwyddocad y cyswllt sydd rhwng eu hymchwil annibynnol eu hunain a chyrsiau eraill mewn daearyddiaeth, yn enwedig felly gynnwys cyrsiau ymarferol y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd llyfryn ynglyn a pharatoi astudiaeth ddaearyddol annibynnol ar gael i fyfyrwyr.

I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:

1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.

2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
P Cloke, C Philo & D Sadler (1991) Approaches to Human Geography. An Introduction to Contemporary Debates
R H Haines-Young a J R Petch (1986) Physical Geography: Its Nature and Methods

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC