Cod y Modiwl DA39210  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH ANRHYDEDD CYFUN/PRIF BROSIECT  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Tony Jones  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus GG39130 , DA39130 , GG39210 , DA36930 , GG36930  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   Dau ddosbarth tiwtorial unigol ? un yn gynnar yn y semester i gynghori ar ddadansoddi data a strwythur yr adroddiad; un yn nes ymlaen yn y semester i gynghori ynghylch drafft yr adroddiad prosiect.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Cyflwyno adroddiad o 4,000 o eiriau ar y prosiect.100%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwynor adroddiad prosiect aflwyddiannus, gydag adolygiadau os yn briodol.100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl.

2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd a/neu grynhoi gwybodaeth o ffynonellau eilaidd

3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.

4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.

5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan y myfyriwr. Bydd pwnc addas o berthnasedd daearyddol yn cael ei gynnig gan y myfyiwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl.   Mae tair rhan i'r prosiect; (i) ymchwil empiraidd i gasglu data cynradd a/neu gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil. (ii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iii) creu adroddiad o 4,000 o eiriau. Pennir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn darparu arweiniad i'r myfyriwr ar ddatblygiad y prosiect a sut y dylid adrodd amdano.

Cynnwys

Mae'r modiwl ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol yn cael ei arwain gan y myfyriwr. Cynigir y pwnc gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Bydd pob myfyriwr yn cael ymgynghorydd ei hun a fydd yn darparu arweiniad ar ddatblygiad y prosiect a sut i gyflwyno adroddiad arno.

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data.  
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil  
Communication Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad o 4,000 o eiriau (a asesir). Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil mewn dosbarthiadau tiwtorial (nas asesir); a gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol  
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn nhrafodaethau'r dosbarthiadau tiwtorial.  
Team work Nis datblygir yn y modiwl hwn.  
Information Technology Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio).  
Application of Number Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol.  
Personal Development and Career planning Ni fydd sgiliau datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn; serch hynny, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn drosglwyddadwy iawn i ystod eang o yrfaoedd.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Flowerdew, R. & Martin, D (1997) Methods in Human Geography: a guide to students doing a research project. Longman
Hoggart, K., Lees, L. & Davies, A. (2002) Researching Human Geography. Arnold
Kennedy, B. A., yn A. Rogers, H. Viles & A. Goudie (golygyddion) (2002) First catch your hare... research designs for individual projects, The Student's Companion to Geography. Blackwell
Kneale, P. (1999) Study Skills for Geography Students: a practical guide. Arnold

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC