Cod y Modiwl | DD10320 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | EGWYDDORION PERFFORMIO | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Charmian C Savill | |||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson, Dr Roger Owen | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | 40 Hours. 2 ddosbarth ymarferol 2 awr bob wythnos | ||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 2 Hours. Seminarau. | |||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Strwythurir sesiynau ymarferol yn 20 sesiwn o ddwy awr (felly dwy sesiwn dwy awr yn wythnosol) yn ystod Semester 2.
`Safbwyntiau` Bogart:
5. Gofod - Cydberthynas Ofodol (i)
6. Gofod - Cydberthynas Ofodol (ii)
7. Gofod - Daearyddiaeth (i)
8. Gofod - Daearyddiaeth (ii)
9. Gofod - Siap
10. Gofod - Ystum
11. Gofod - Ystumiau `bob dydd`
Ystumiau mynegiannol
12. Gofod - Pensaerniaeth
13. Amser - Tempo (cylfymder)
14. Amser - Parhad
15. Amser - Ymateb Cinesthetig
16. Amser - Ailadrodd
17. Y Canol
18. Y Llais
19. Cyflwyniad i Waith Rhagbaratoadol a Chyfansoddi
20. Cyfansoddi
NODIADAU AR YR ASESIAD:
LLYFR NODIADAU
Fe fydd y llyfr nodiadau yn gydwerth a thraethawd 3,000 o eiriau. Strwythurir y llyfr nodiadau ar ffurf 20 dadansoddiad byr (heb fod yn fwy na 150 o eiriau yr un) yn olrhain gwaith yr 20 dosbarth ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o`r technegau ymarferol a ddefynddiwyd yn y dosbarthiadau, yn ogystal a chrybwyll y drafodaeth ddiwylliannol y cyfeiriwyd ati yn ystod y dosbarthiadau.
CYFRANIAD AC YMRODDIAD YN Y DOSBARTHIADAU
Bydd aelodau staff yn asesu cyfraniad myfyrwyr wrth drafod a chyfrannu ar lafar yn y dosbarthiadau ymarferol. Rhan hanfodol o`r asesiad hwn fydd ystyriaeth o bresenoldeb a phrydlondeb y myfyrwyr, yn ogysta a`u hymroddiad yn y dosbarthiadau.
- archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol ym myd theatr sydd yn gysylltiedig a thraddodiadau a dylanwadau o Ewrop a thu hwnt
- cydnabod yr amryfal gyd-destunau cymdeithasol y mae perfformio yn cael ei amlygu ynddynt, ac archwilio`r cyfryw gyd-destunau
- archwilio perffromio ac ymddygiadau perfformiadol trwy ddulliau ymarferol
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC