Cod y Modiwl GW10320  
Teitl y Modiwl RHYFEL STRATEGAETH A CHUDDWYBODAETH  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Robert G Hughes  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Miss Lora Sian Gibson  
Elfennau Anghymharus IP10320  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. (8 x 1 awr)  
  Darlithoedd   18 Hours. (18 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Un arholiad 2 awr  70%
Asesiad Semester Un traethawd 2,000 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll   

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl bydd y myfyrwyr wedi:

- Cael eu cyflwyno i'r materion a'r syniadau allweddol sy'n ymwneud a rol grym yng nghydberthynas gwledydd, gan gynnwys ei esblygiad, syniadaeth strategol fodern a nifer o faterion cyfoes ym maes strategaeth.
- Sicrhau cynefindra sylfaenol a'r cysyniadau a ddefnyddir mewn trafodaethau strategol cyfoes.
- Dod yn abl i gymhwyso'r cysyniadau hyn i ystod o faterion a phroblemau.
- Dod yn abl i wneud defnydd effeithiol o sgiliau: adnabod a lleoli ffynonellau addas; astudio'n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw darparu cyflwyniad i'r astudiaeth o rol grym yng nghydberthynas gwledydd, y modd y caiff ei ddefnyddio, a sut yr asesir y defnydd posibl ohono. Mae'r cynnwys ystyriaeth o ddefnyddioldeb grym, esblygiad rhyfela, syniadau strategol cyfoes, natur cuddwybodaeth a materion cyfoes yn ymwneud a strategaeth. Mae'r modiwl hwn yn cyfateb i'r darlithoedd (a gyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg) yn y modiwl newydd Rhan Un IP10320, ond bydd y seminarau yn GW10320 yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i rol grym yng nghydberthynas gwledydd, i'r syniadaeth am rym ac i'r dadleuon yn ymwneud a'r cwestiwn o rym. Yn benodol mae'r modiwl yn amcanu i dalu sylw i:

- Y defnydd o rym yn yr oes fodern.
- Esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear.
- Strategaeth yn yr oes niwclear.
- Rol cuddwybodaeth.
- Cwestiynau cyfoes yn ymwneud a strategaeth.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys pum adran gysylltiedig. Caiff pob adran ei chyflwyno gan un aelod o'r staff a rhyngddynt byddant yn darparu cyflwyniad trylwyr i'r pwnc. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ddarlithoedd ac 1 neu 2 seminar. Bydd y modiwl yn dechrau drwy drafod y defnydd o rym yn yr oes fodern, gan gynnwys dadleuon ynglyn a'r defnydd o rym a darfodedigrwydd rhyfel. Yna bydd yn ystyried esblygiad rhyfela modern o gyfnod Napoleon hyd yr oes niwclear, gan gynnwys y chwyldro Napoleanaidd a tharddiad rhyfela modern, dyfodiad rhyfel ddiarbed ac effaith technoleg ar ryfel, a fydd yn dod a'r myfyrwyr i fyny hyd at ddyfodiad yr oes niwclear. Mae'r drydedd adran yn ymdrin a syniadaeth strategol yn yr oes niwclear, gan gynnwys damcaniaeth ataliaeth, strategaeth niwclear, rheoli arfau, rhyfela chwyldro-gerila a therfysgaeth. Yn bedwerydd rhoir ystyriaeth i rol cuddwybodaeth, cuddwybodaeth a'r wladwriaeth, a gwrthysbio. Yn olaf mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o gwestiynau ym maes strategaeth, gan gynnwys ymyrraeth ddyngarol, lluosogiad niwclear a'r rhyfel yn erbyn terfysgiaeth..

Sgiliau trosglwyddadwy

Drwy gydol y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl yn ogystal a'u sgiliau cyflwyno ar lafar. Bydd paratoi ar gyfer traethodau a'u hysgrifennu yn annog myfyrwyr i ymarfer sgiliau ymchwilio annibynnol gan gynnwys adalw, dethol, cydosod a threfnu data, ysgrifennu, TG a rheolaeth amser

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC