Cod y Modiwl | GW12220 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | CHWYLDRO A DILYNIANT MEWN ATHRONIAETH WLEIDYDDOL | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2006/2007 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Professor Howard L Williams | ||||||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||||||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Michael Foley | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 18 x 1 awr | |||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 8 x Seminar 1 awr | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Athroniaeth Wleidyddol Glasurol
2. Plato ac Aristotle a bywyd braf gwladwriaeth y ddinas
3. Y weledigaeth Gristnogol a chynnydd moderniaeth orllewinol: Augustine i Machiavelli
4. Athroniaeth wleidyddol Islamaidd
Athroniaeth wleidyddol ryddfrydol
5. Athroniaeth wleidyddol ryddfrydol: tybiaethau sylfaenol
6. A yw'r meddwl rhyddfrydol yn wyn, gorllewinol a gwrywaidd?
Chwyldroadau mewn Meddwl Gwleidyddol
7. Chwyldro Seisnig a gwleidyddiaeth sofraniaeth: Hobbes
8. John Locke a'r Chwyldro Hyfryd / Chwyldro America a'r papurau Ffederal
9. Rhyddfrydiaeth Seisnig Bentham / Smith a Mill
10. Y Chwyldro Ffrengig; Sofraniaeth boblogaidd, democratiaeth a Rousseau
11. Y Chwyldro yn Rwsia: Marcsiaeth, diwydiannaeth a dosbarth
12. Ffasgaeth a stad yr eithriad: Schmitt
13. Chwyldroadau gwrthdrefedigaethol: Gramsci, Fanon a Ghandi, brwydrau trais a rhyddid
Sialensiau Cyfoes
14. Mai 1968: Foucault a gwleidyddiaeth grym/gwybodaeth
15. Gwleidyddiaeth Werdd, Ecolegol ac Anarchaidd
16. Aml-ddiwylliannaeth, ethnigrwydd a hil
17. Mudiad gwrth-gyfalafol: cyfiawnder cymdeithasol byd-eang
18. Diweddglo
Seminarau:
1. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth athroniaeth wleidyddol?
2. Seiliau a gwrthgyferbyniadau'r meddwl rhyddfrydol
3. A yw chwyldroadau'n llwyddiannus byth?
4. Marcsiaeth a chomiwnyddiaeth
5. Gwleidyddiaeth wrthdrefedigaethol
6. Sialensiau'r 1960egau
7. Beth yw cyfiawnder cymdeithasol?
8. Ail-feddwl cyfoes
Problem_solving | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at gyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; llunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. | ||
Research skills | Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. | ||
Communication | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i fynegi eu hunain yn gadarn. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf addas o gyfathrebu yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu bod yn eglur ac yn uniongyrchol ac yn gadarn yngl'n â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. | ||
Improving own Learning and Performance | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestru darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd a'u pynciau cyflwyno. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser a'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau. | ||
Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys trafodaeth mewn grwp bychan lle bydd rhaid i fyfyrwyr drafod fel grwp y materion creiddiol sy'n gysylltiedig â phwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn y dosbarth yn rhan hollbwysig o'r modiwl. | ||
Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau eu gwaith ar brosesydd geiriau. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we a thrwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis BIDS ac OCLC). | ||
Personal Development and Career planning | Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. | ||
Subject Specific Skills | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud â'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC