Cod y Modiwl HA37230  
Teitl y Modiwl CREFYDD, HUD A GWYDDONIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Iwan R Morus  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HY37230  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 seminars a dosbarthiadau tiwtorial unigol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%
Asesiad Ailsefyll3 Awr ARHOLIAD AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG HEB EI GWBLHAU  100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglyn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred.

Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers a cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas a mathau eraill o gred boblogaidd.

Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.

Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.

Disgrifiad cryno

Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahan i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'i hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er engraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas a systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglyn a datblygiad gwyddoniaeth a'i rol yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - problem hanesyddol crefydd, cred a gwyddoniaeth
2. Hud a'r Byd Naturiol
3. Prawf Galileo
4. Gwyddoniaeth Brotestannaidd
5. Sectau a Sectyddwyr
6. Newton yr Heretic
7. Duw a'r Ymoleuo
8. Joseph Priestley ac Economi'r Nefoedd
9. Mesmereiddio'r Chwyldro
10. Diwinyddiaeth Natur
11. Radicaliaeth Drydanol
12. Mesur Pen - Mesur Cymdeithas
13. Esblygiad a Chynnydd
14. Mesmeriaeth a'r Corff Gwleidyddol
15. Darwin, Duw a Diwygiaeth
16. Ffiseg y Byd Ysbrydol
17. Bydoedd Eraill
18. Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.  
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol  
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.  
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  
Subject Specific Skills Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth, crefydd a chred; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC