Cod y Modiwl HC11120  
Teitl y Modiwl CONCWEST, UNO A HUNANIAETH YNG NGHYMRU 1250-1800  
Blwyddyn Academaidd 2006/2007  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eryn M White  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus WH11120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
  Seminarau / Tiwtorialau   5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG  70%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU YR UN  30%
Asesiad Ailsefyll2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG A GWAITH AR GOLL  100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar.

Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.

Gweithio'n annibynnol ac mewn tim.

Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.

Disgrifiad cryno

Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru cyn datblygiad diwydaint sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wald o gyfnod grym y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Rhoddir sylw drwy gydol y cwrs i ymateb pobl Cymru i'r newidiadau o ran awdurdod a llywodraeth.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru'r canol oesoedd diweddar a'r cyfnod modern cynnar

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Creu Hunaniaeth Wleidyddol: Llywelyn ap Gruffudd
2. Goresgyniad 1282
3. Canlyniadau'r Goncwest
4.   Gwrthryfel Glyndwr
5. Chwilio am y `Mab Darogan'
6. Y Deddfau Uno (1536-43)
7. Natur Cymdeithas y Cyfnod Modern Cynnar
8. Awdurdod y Bonedd
9. Arferion a chredoau poblogaidd
10. Dylanwad y Dadeni Dysg
11. Y Diwygiad Protestannaidd
12. Cymru a'r Rhyfel Cartref
13. Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth
14. Llythrennedd ac addysg yn y ddeunawfed ganrif
15. Y Diwygiad Methodistaidd
16. Creu Traddodiad
17. Iolo Morganwg a Rhamantiaeth
18. Twf radicaliaeth wleidyddol

Seminarau (e.e):
Llywelyn ap Gruffudd
Owain Glyndwr
Y Deddfau Uno
Dadeni a Diwygiad
Cymru a'r Rhyfel Cartref
Brwdfrydedd ac Ymoleuo yn y Ddeunawfed Ganrif

Sgiliau Modiwl

Problem_solving Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.  
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Communication Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol  
Improving own Learning and Performance Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad  
Information Technology Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas  
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC