Cod y Modiwl AP10120  
Teitl y Modiwl DADANSODDI PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Charmian C Savill  
Elfennau Anghymharus PF20110 , PF10320  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Ysgrifenedig 2000 o eiriau40%
Asesiad Semester 1 x Sylwebaeth Lafar mewn Grwp (20 munud)60%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: gosodir darn fideo newydd fel testun ar gyfer y rheini syn ail-sefyll 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. cymhwyso'r termau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi darn o berfformiad
2. arddangos eu gallu i sylwebu'n gryno a deallus ar ddarn o berfformiad
3. dangos dealltwriaeth sylfaenol o gyd-destun ffurfiol a hanesyddol perfformio
4. arddangos eu gallu i gydweithio mewn grwp i greu cyflwyniad llafar deallus


Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd

  1. Cyflwyno'r Derminoleg: enghreifftiau cychwynnol
  2. Theatr, Chwarae, Gemau, Defodau: arolwg o ffurfiau Perfformiadol
  3. Tempo a Threfniant Amser mewn Perfformiadau
  4. Strategaethau a Thactegau mewn Perfformiadau
  5. Senograffiaeth a Thrac Sain mewn Perfformiadau
  6. Technegau Sylwebu: ymarfer
  7. Grwpiau, timau a Pherfformiadau
  8. Cynulleidfaoedd mewn Perfformiadau
  9. Beirniaid a Pherfformiadau
  10. Technegau Sylwebu: Cyflwyniad Grwp

Nod

Cynigir y modiwl hwn fel sail i'r radd Anrhydedd Gyfun mewn Astudiaethau Perfformio. Yn y gorffennol (er 1996), cyflwynwyd y modiwl Dadansoddi Perfformio ar ddechrau'r ail flwyddyn, am fod y modiwl ar yr adeg honno yn cynnig golwg amgen ar bynciau o fewn Astudiaethau Theatr. Ers hynny, fe ddatblygodd yr Adran ddarpariaeth lwyddiannus iawn mewn Astudiaethau Perfformio trwy gyfrwng y Saesneg, a bwriedir creu darpariaeth gyffelyb trwy gyfrwng y Gymraeg o 2006-7. I'r perwyl hwnnw, mae'r modiwl Dadansoddi Perfformio yn allweddol bwysig fel rhagarweiniad i'r pwnc yn ei grynswth.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i theori Perfformio. Fe fydd y darlithoedd yn gosod y syniad o berfformio mewn cyd-destun diwylliannol a chelfyddydol eang, gan awgrymu bod a wnelo perfformio nid yn unig a'r theatr, ond a ffurfiau eraill ar gelfyddyd fyw megis dawns, celfyddyd berfformiadol, a ffurfiau arbennig ar weithredu cymdeithasol megis defodau cymdeithasol, chwaraeon ac ati. Cyflawnir hyn trwy gyflwyno geirfa o dermau dadansoddiadol arbennig i'r myfyrwyr a fydd yn eu galluogi i drafod perfformiadau theatraidd, defodau a chwaraeon o fewn yr un cwmpas beirniadol.
Fe fydd y darlithoedd hefyd yn cynnig perspectif hanesyddol ar waith rhai o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym myd theatr gorfforol, celfyddyd berfformiadol a dawns gyfoes er 1945, gan gynnwys Jerzy Grotowski, Eugenio Barba, Marina Abramovic, Pina Bausch, Kazuo Ohno, Robert Wilson, The Wooster Group a'r cwmni Cymraeg Brith Gof.

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd â chymhwyso ieithwedd ddadansoddiadol newydd, a cheisio'i ddefnyddio yn gyntaf oll er mwyn disgrifio perfformiad nad sydd o rheidrwydd yn gydnaws â chonfensiynau amlycaf theatr, ac yna'i ystwytho a'i ddatblygu fel y bo'n sail i ddadansoddiad ehangach yn y Cyflwyniad Grwp.  
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn yn bennaf wrth baratoi'r Cyflwyniad Grwp, ond hefyd wrth baratoi ar gyfer y darlithoedd a'r sesiynau gwylio. Fe fydd yn bwysig iawn i'r myfyrwyr ddeall a gwerthfawrogi cyd-destun nifer o'r enghreifftiau o berfformio a ddangosir iddynt yn ystod y modiwl cyn iddynt fedru cymhwyso'r eirfa ddadansoddiadol yn effeithiol.  
Cyfathrebu Mae'n amlwg y bydd ymdrechu i gyflwyno trafodaeth feirniadol trwy gyfrwng terminoleg newydd yn datblygu medrau cyfathrebu'r myfyrwyr, a hynny yn ysgrifenedig yn y Sylwebaeth ac ar lafar yn y sesiynau dysgu a'r Cyflwyniad Grwp.'  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r ffaith fod y Cyflwyniad Grwp yn datblygu a chymhwyso'r dechneg a ddefnyddir yn yr asesiad cyntaf yn arwydd clir o'r modd y datblygir y medrau hyn yn y modiwl. Disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu techneg a'u deunydd, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl  
Gwaith Tim Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol wrth i'r myfyrwyr baratoi a chyflwyno gwaith grwp. Disgwylir i'r cyflwyniad hwnnw dystio i allu'r grwp i gydweithio'n effeithiol, ac fel rhan o'r asesiad, rhoddir cyfle i'r myfyrwyr gwblhau holiadur yn nodi ansawdd eu profiad o gydweithio fel grwp.  
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'r Cyflwyniad Grwp, ond nid oes le yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fodd bynnag, disgwylir i'r myfyrwyr weithio'n ddyfal yn ystod y modiwl hwn i ddatblygu eu dulliau dadansoddi a gwerthuso perfformiad, ac felly o'r safbwynt hwnnw, fe gyfranna'r modiwl at ddatblygiad personol y myfyriwr unigol.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Barba, Eugenio and Savarese, Nicola (1991) A Dictionary of Theatre Anthropology - The Secret Arts of the Performer Routledge
Bial, H. (ed) (2004) The Performance Studies Reader London: Routledge
Carlson, Marvin (1996) Performance: A Critical Introduction Routledge
Grotowski, Jerzy (1975) Towards a Poor Theatre Methuen
Huxley, Michael & Witts, Noel (eds) (1996) The Twentieth Century Performance Reader Routledge
Kumiega, J (1985) The Theatre of Grotowski Methuen
Schechner, Richard (2002) Performance Studies - An Introduction London/New York: Routledge
Schechner, Richard (1988) Performance Theory London/New York: Routledge
Sontag, S (1988) Antonin Artaud: Selected Writings California
Watson, I (1993) Towards a Third Theatre Routledge

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC