Cod y Modiwl |
DA30620 |
Teitl y Modiwl |
ADNODDAU YNNI AR AMGYLCHEDD |
Blwyddyn Academaidd |
2007/2008 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Aled P Rowlands |
Semester |
Semester 2 |
Elfennau Anghymharus |
GG30620 |
Manylion y cyrsiau |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Hours. Seminarau. 4 x 1 awr |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. 7 x 1 awr |
|
Darlithoedd | 22 Hours. 11 x 2 awr |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr. | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad: Chyflwyniad or cywaith ir dosbarth. | 20% |
Asesiad Semester | Gwaith Prosiect: Cywaith 3000 o eiriau. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Ail sefyll: arholiad 2 awr (50%). Cywaith iw gyflwyno ar ddiwrnod yr arholiad. | |
|
Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol cwblhau'r cwrs dylai'r myfywrywr fod gallu profi;
-
Dealltwriaeth o wahanol adnoddau ynni, eu hanes, a'u dyfodol
-
Gwerthfawrogi manteision ac anfanteision yr adnoddau ynni gan gyflwyno ffeithiau ystadegol i gefnogi eu dadl.
-
Y gallu i asesu effaith posib unrhyw ddatblygiad yn ymwneud ag adnoddau ynni.
-
Datblygu eu gallu a'u medrusrwydd i ysgrifennu adroddiadau gwyddonol ar ddawn i gyflwyno gwybodaeth ar lafar.
-
Datblygu sgiliau cyfrifiadurol.
Nod
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar adnoddau ynni gyda'r amcan o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfywryr o'r pwnc. Gwneir hyn drwy astudio hanes, themau cyfoes, a asesu dyfofol amryw o adnoddau ynni sydd yn berthnasol i Gymru a thu-hwnt. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth clir o bynciau cyfoes ar gallu i werthfawrogi manteision ac anfanteision y mathau gwahanol o adnoddau ynni. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu cyfrifiadurol, dadansoddol a chreadigol y myfyrwyr.
Cynnwys
Mae'r modiwl wedi ei gynllunio i fod yn addas i ddaearyddwyr dynol a ffisegol. Thema ganolog y modiwl yw adnoddau ynni ar modd yr ydym yn datblygu'r adnoddau hyn. Trafodir beth yw 'ynni', sut yr ydym yn ei ddefnyddio, sut mae'r gofynion hyn wedi newid ar modd mae'r gofynion hyn yn cael eu cwrdd. Trafodir sawl math o ynni gan bwysleisio manteision ac anfanteision pob un. Pwysleisir yr angen i asesu effaith datblygiadau adnoddau ynni ar y gymuned ac ar yr amgylchedd ac fe gyflwynir nifer o enghreifftaiu, y mwyafrif o Gymru.
Yn fras, rhoddir sylw i faterion yn y drefn ganlynol,
-
Tanwydd ffosiledig; eu hanes, dosbarthiad a themau cyfoes e.e. effaith ar hinsawdd.
-
Tanwydd niwclear; canolbwyntio ar Brydain gan rhoi sylw i'r drafodaeth am storio gweddillion tanwydd niwclear.
-
Ynni adnewyddadwy; yn cynnwys ynni'r haul, gwynt, tonnau a bio-mas
Rhestr Ddarllen
Llyfrau
Boyle, G. ed. (1996) Renewable energy : power for a sustainable future
Oxford University Press
Brown, G.C. and Skipsey, E. (1986) Energy resources : geology, supply and demand
Open University Press
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC