Datrys Problemau |
Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
Sgiliau ymchwil |
Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil |
Cyfathrebu |
Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad o 4,000 o eiriau (a asesir). Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil mewn dosbarthiadau tiwtorial (nas asesir); a gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn nhrafodaethau'r dosbarthiadau tiwtorial. |
Gwaith Tim |
Nis datblygir yn y modiwl hwn. |
Technoleg Gwybodaeth |
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
Rhifedd |
Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Ni fydd sgiliau datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn; serch hynny, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn drosglwyddadwy iawn i ystod eang o yrfaoedd. |