Cod y Modiwl | DD32920 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | THEORI CYFARWYDDO | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Ms Charmian C Savill | |||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | |||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||
Rhagofynion | DD10320 Unrhyw ddau o'r tri modiwl canlynol: DD10120, DD10320, DD10520 | |||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar gael i`r cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllewinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr
Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir rhai o egwyddorion sylfaenol y grefft o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Yn y sesiynau dysgu, archwilir datblygiad a thwf y cysyniad o gyfarwyddo ar hyd yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar ddulliau o ddarllen a dehongli drama ar gyfer perfformiad. Trafodir y berthynas rhwng y Cyfarwyddyd a`r Dylunydd, a threfnir sesiynau ymarferol pryd y gall myfyrwyr weithio ac arbrofi ar ddarnau o destunau wedi`u dethol o gyfnodau gwahanol.
- dyfnhau eich dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, y penderfyniadau, a`r ystod o bosibiliadau sydd ar agor i`r Cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`e berfformio
- cwestiynu rol y sawl sy`n gyfrifol am greu a chlynnu theatr gyfoes
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC