Cod y Modiwl GF37320  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD ESTYNEDIG 2  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Catrin F Huws  
Semester Ar gael yn semester 1 a 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mrs Glenys N Williams  
Rhagofynion GF10110 OR GF30110  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methu'r asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwyno¿r traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg i¿r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir i¿r myfyriwr fynychu unrhyw o¿r darlithoedd sydd yn rhan o¿r modiwl os yw¿n dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda¿r goruchwyliwr.100%
Asesiad Ailsefyll   

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas
b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data
c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd
d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno¿r ddadl a¿r wybodaeth yn effeithiol
e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o¿r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.

Disgrifiad cryno

Modiwl tra gwahanol yw¿r modiwl hwn o gymharu â modiwlau eraill yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan ei fod yn ymdrin â gwaith ymchwil ac ysgrifennu estynedig ar bwnc arbennig yn hytrach na phwnc a arweinir gan y darlithwyr. Mater ydyw i¿r myfyriwr unigol i ddewis eu maes pwnc ar gyfer ymchwil manwl gydag arweiniad a sêl bendith gan yr Adran. Yna, mater iddo/iddi ydyw i ymchwilio ac ysgrifennu am y testun o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd ag ymwybyddiaeth o¿r maes pwnc sydd yn gefndir i¿r testun. Pwrpas y modiwl yw meithrin sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu, a chan hynny, adeilada ar yr wybodaeth a¿r hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau¿r llyfrgell a enillwyd yn y modiwl Proses Gyfreithiol. Dibynna¿r gallu i ymchwilio yn effeithiol ar y gallu i ddefnyddio ystod eang o adnoddau llyfrgell ac i ganfod adnoddau drwy ddefnyddio cronfeydd data a theclynnau llyfryddiaeth. Rhoddir arweiniad gan y goruchwyliwr drwy gyfres o gyfarfodydd lle disgwylir i¿r myfyriwr adrodd ar ddatblygiad yr ymchwil a chyflwyno drafftiau ysgrifenedig er mwyn derbyn adborth. Rôl y goruchwyliwr yw cynghori¿r myfyriwr ynghylch y dulliau ymchwil a ddefnyddir a sut i gyflwyno¿r canlyniadau yn y traethawd ei hunan.

Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd â gwaith ymchwil am y tro cyntaf.

Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny¿n briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw¿r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a¿r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu¿r gallu i weithio¿n gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu¿n effeithiol yn ysgrifenedig.

Nod

Meithrin sgiliau a gysylltir â darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i¿r rhai a ddatblygir drwy¿r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC