Cod y Modiwl HA34720  
Teitl y Modiwl GWRANDO AR HANES: Y MUDIAD HAWLIAU SIFIL YN AMERICA  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Steven Thompson  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus HY34720  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 X 2 HOUR SEMINARS  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 1 CYFLWYNIAD SEMINAR A CHYFRANIADAU SEMINAR CYFFREDINOL  20%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD (1,500 O EIRIAU)  20%
Asesiad Semester 1 PROSIECT (5,000 O EIRIAU)  60%
Asesiad Ailsefyll NI FYDD YN BOSIBL AIL-SEFYLL Y MODIWL HWN Ni fydd yn bosibl ail-sefyll y modiwl hwn os na chyflwynir unrhyw waith ysgrifenedig   

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos ymwybyddiaeth o hanesyddiaeth y mudiad hawliau sifil a diwylliant Affro-Americanaidd yn ystod y cyfnod wedi'r rhyfel;

dangos ymwybyddiaeth o'r materion yngl'n a methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau clywedol i astudio'r gorffennol;

astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, ffynonellau archifol, printiedig, clywedol neu weledol;

adeiladu dadansoddiadau hanesyddol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gan wneud hyn trwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol yn ogystal a ffynonellau eilradd;

gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal a gyda ei gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda'r grwp.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth ffynonellau clywedol fel ffynonellau hanesyddol gwreiddiol a bydd yn defnyddio hanes y mudiad hawliau sifil yn America ers yr Ail Ryfel Byd, o'r 1950au i'r 1980au, fel achos enghreifftiol. Ymhlith y ffynonellau clywedol a ddefnyddir bydd: cerddoriaeth poblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmniau masnachol o fewn ffurfiau megis jazz, gospel, r'n'b, soul, funk, disco a rap; caneuon a diwylliant cerddorol y mudiad hawliau sifil; recordiau o gyfarfodydd yn yr ymgyrch; barddoniaeth a ddarllenwyd gan awduron blaenllaw; a pherfformiadau comedi gan gomediwyr Affro-Americanaidd.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth sain fel ffynhonnell hanesyddol ond, yn ogystal, bydd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sain mewn cyd-destun ehangach trwy ystyried ffactorau yngl'n a'r cynhyrchiant a'r defnydd cyfoes o ffynonellau clywedol. At hynny, defnyddir ffynonellau `traddodiadol' i amlygu'r cyd-destun ehangach hefyd.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad: Hanes clywedol
2. Yr Eglwys a Cherddoriath Gospel yn ystod y 1950au
3. Hawliau Sifil yn y Taleithiau Deheuol
4. Hawliau Sifil yn y Gogledd Trefol
5. Cenedlaetholdeb Du a Seiniau'r Chwyldro
6. Areithiau Arweinwyr y Mudiad
7. Y Berthynas Rhwng y Rhywiau yn y Mudiad
8. Fietnam a Chwymp y Mudiad
9. Y Sffer Gyhoeddus Du yn ystod y 1970au
10. Rap yn America Reagan

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy'r gwaith asesiedig.  
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy'r gwaith ysgrifenedig.  
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy'r seminarau a'r atborth yngl'n รข'r gwaith ysgrifenedig. Asesir y medrau hyn.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn.  
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd ac yn arwain un seminar yr un. Asesir y medrau hyn fel rhan o asesiad y perfformiad yn y seminarau.  
Technoleg Gwybodaeth Annogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Annogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn.  
Rhifedd Ni ddefnyddir gwybodaeth rifyddol gan y myfyrwyr.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd clir a beirniadol.  
Sgiliau pwnc penodol Datblygir y gallu i astudio, dadansoddi a thrafod amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol, ond gyda'r pwyslais ar ffynonellau clywedol.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Cyffredinol
Neal, Mark Anthony. (1999.) What the music said :black popular music and black public culture /Mark Anthony Neal. Routledge 0415920728PBK
** Testun A Argymhellwyd
Chafe, William H (1980) Civilities and Civil Rights: Greensboro, North Carolina, and the Black Struggle for Freedom Oxford University Press 019502625X
Dittmer, J (1980) Local People: The Struggle for Civil Rights in Mississippi Urbana:University of Illinois Press 0252021029
Fairclough, Adam (2001) To Redeem the Soul of America: The Southern Christian Leadership Conference and Martin Luther King University of Georgia Press 0820323462
Garrow, David J. (1989) We Shall Overcome: The Civil Rights Movement in the United States in the 1950s and 1960s New York
Jones, Leroi (1963) Blues People:Negro music in white America New York : W. Morrow
Smith, Suzanne E (1999) Dancing in the Street: Motown and the Cultural Politics of Detroit London 0674005465PBK
Southern, Eileen (1997) The Music of Black Americans: A History New York : Norton 0393971414PBK
Ward, Brian (1998) Just My Soul Responding: Rhythm and Blues, Black Consciousness and Race Relations London : UCL Press 185728139XPBK
Weisbrot, Robert (1990) Freedom Bound: A History of America's Civil Rights Movement New York : Plume 0452265533
Werner, Craig (2002) A Change is Gonna Come: Music, Race and the Soul of America Edinburgh : Mojo 1841952966
Williams, Juan (1987) Eyes on the Prize: America's Civil Rights Years, 1954-1965 New York ; London : Penguin Books 0140096531

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC