Datrys Problemau |
Disgwylir i?r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Sgiliau ymchwil |
Datblygir hyn trwy?r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Cyfathrebu |
Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau?r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i?r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r trathodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i?r myfyrwyr. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau yngl?n ag arddull a chynnwys. Anogir y myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a?u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon. |
Gwaith Tim |
Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda?i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau. |
Technoleg Gwybodaeth |
Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i?w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o?r sgiliau hyn. |
Rhifedd |
Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau ynglyn a mudo, newid demograffig a datblygiad daearyddol trefi. Asesir y gallu i ddefnyddio?r wybodaeth yma mewn ffordd priodol fel rhan o?r traethodau lle mae?n addas. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu?r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Sgiliau pwnc penodol |
Bydd y modiwl yn datblygu gallu?r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod y ffynonellau, a?i gymhathu i ddadleuon craff o fewn cyd-destun syniadaethol. |