Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Myfyrwyr yn weithio yn yr adeilad Parry-Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwnewch gais i Aberystwyth nawr am gyfle i gael dros £18,000 mewn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

Pam dylwn i wneud cais am ysgoloriaeth?

Mae llawer o resymau dros wneud cais i astudio yn Aberystwyth – yn ogystal ag addysgu ac ymchwil o’r safon uchaf rydym yn cynnig profiad myfyriwr heb ei ail mewn lleoliad godidog. Mae Aberystwyth hefyd yn rhoi pwyslais ar gefnogi ein myfyrwyr, gan gynnwys yn ariannol. Mae ein hysgoloriaethau a bwrsariaethau hael yn golygu y gall ein myfyrwyr gyfuno pecynnau ariannol gwerth dros £18,000, a’r newyddion da yw nad oes angen ei ad-dalu!

Gwnewch gais nawr ar gyfer Ysgoloriaeth Mynediad

Os ydych chi’n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth, mynnwch gip ar ein Hysgoloriaeth Mynediad. Gellir ennill £1,000 y flwyddyn a chael cynnig diamod. Byddwch yn sefyll dau arholiad yn eich ysgol/coleg*. Mwy o wybodaeth ar gael yma.

*sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Milfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Pa ysgoloriaethau eraill sydd ar gael?

Mae gennym nifer o wobrau ar gael i’n myfyrwyr a gellir cyfuno pecynnau ariannol. Cewch edrych ar ein llyfryn Cymorth Ariannol a Gwobrau neu ddilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth.

Pwysig

Sylwer bod ymgeiswyr i'r cwrs BVSc Gwyddor Milfeddygaeth yn gymwys i gael ysgoloriaethau a bwrsariaethau a ddyfernir gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn hytrach na dyfarniadau Prifysgol Aberystwyth.  Fodd bynnag, gweler y ddolen isod am amrywiaeth o ddyfarniadau a grëwyd yn benodol ar gyfer ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac sy'n ymroddedig i Gyfle Cyfartal.  Mae croeso i chi wneud cais am ysgoloriaeth/grant/gymorth ariannol yn Gymraeg neu'n Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.