English

Clwb Cerdd Aberystwyth

Rhaglen 2018/19

Cynhelir pob cyngerdd yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.

* * *

Nos Iau 4 Hydref 2018 am 8.00 yh

Triawd Kokoschka

Triawdau gan Brahms (opus 8), Shostakovich (rhif 2) a Schubert (Notturno).

*          *           *

Dydd Sul 25 Tachwedd 2018 am 3.00 yp

Emma Abbate a Julian Perkins (piano, pedair llaw)

Cyfres Meistres Gŵydd gan Ravel (fersiwn gwreiddiol) a darnau gan Dvořák, Mozart, Schubert a Weber.

*          *           *

Nos Iau 31 Ionawr 2019 am 8.00 yh

Pedwarawd Llinynnol Solem

 

Pedwarawd Haydn, op 76 rhif 5, yn D, Pedwarawd Beethoven opus 18 rhif 3, yn D, a Phedwarawd Schumann opus 41 rhif 3, yn A.

*           *           *

Dydd Sul 3 Mawrth 2019 am 3.00 yp

Mary Hofman (feiolin) a Richard Ormrod (piano)

 

Mae cyngerdd hwn yn rhan o brosiect Beethoven yng Nghymru, sy’n dod â chyfansoddwyr, perfformwyr a chlybiau cerdd ynghyd

i ddathlu bywyd cerddorol Cymru.  Mae’r prosiect yn llwyfannu cylch cyfan o ddeg sonata Beethoven i’r ffidl a phiano

mewn tri cyngerdd i’w perfformio yn deg lleioliad gwahanol  gan Mary Hofman a Richard Ormrod. 

Ym mhob cyngerdd bydd hefyd darn newydd wedi’i gomisiynu gan gyfansoddwraig Gymreig.

Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys y sonatâu Op 12, y sonata ‘Spring’, a darn newydd gan Rhian Samuel.

Mae’r prosiect Beethoven yng Ngymru wedi bod yn llwyddianus gyda diolch i gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru,

Tŷ Cerdd, Gwyneth Peters, a nifer o sefydliadau eraill, o dan arweiniad Clwb Cerdd Y Rhyl.

*          *           *

Nos Iau 25 Ebrill 2019 am 8.00 yh

Jessica Dandy (contralto) a Dylan Perez (piano) (piano)

(wedi ei gohirio o’r 28 Hydref 2018)

Caneuon gan Duparc, Poulenc, Schumann, Wolf a Vaughan Williams.

Daw'r cyngerdd hwn drwy nawdd Cynllun Artistiaid Lieder Rhydychen.

*          *           *

Nos Iau 2 Mai 2019 am 8.00 yh

Charlotte Ashton (ffliwt)

 

Daw’r cyngerdd hwn drwy nawdd Ymddiriedolaeth Gerdd Iarlles Munster.

 

 

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Clwb Cerdd cyn ail gyngerdd y tymor, hynny yw, am 2.15 yp ddydd Sul, 28 Hydref 2018.