Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA22510
Teitl y Modiwl
GEOMORFFOLEG AFONOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
GG22610
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 lectures x 2 hours
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   AILSEFYLL ARHOLIAD  Fformat yn union yr un peth ir arholiad semestr.   100%
Arholiad Semester 2 Awr   ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  ateb 2 gwestiwn allan o 4.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.

Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.

Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.

Cynnwys

Fe drafodir y thema^u canlynol yn ystod darlithoedd y modiwl.
  • Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon.
  • Methiant / erydiad ar lethrau
  • Prosesau pen-y-nant a datblygiad rhwydweithiau.
  • Prosesau'r sianel: dw^r a gwaddod.
  • Geometreg hydrolig.
  • Erydiad glan a gwely.
  • Patrymau sianel a chyfraddau newid.
  • Rheoli sianeli.
Trwy gydol y modiwl, ehangir y thema^u a gyflwynwyd yn ystod modiwl Amgylcheddau Wyneb y Ddaear / Earth Surface Processes: cydberthynas proses a thirffurf, ymateb prosesau, cyfantoledd a throthwyon. Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar y cydgysylltedd rhwng y systemau amrywiol o brosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dim
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dim
Datrys Problemau Dim
Gwaith Tim Dim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.
Rhifedd Dim
Sgiliau pwnc penodol Dim
Sgiliau ymchwil Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig.
Technoleg Gwybodaeth Dim

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Brookes, A. (1988) Channellised Rivers: Perspectives for environmental management Chwilio Primo Downs, P.W. and Gregory, K.J. (2004) River Channel Management Arnold Chwilio Primo Knighton, D. (1998) Fluvial Forms and Processes Arnold Chwilio Primo Petts, G. and Foster, I. (1985) Rivers and Landscape Arnold Chwilio Primo Robert, A. (2003) River Processes Arnold Chwilio Primo Selby, M.J. (1993) Hillslope Materials and Processes 2nd Edition Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5