Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG26020
Teitl y Modiwl
FFISEG MATHEMATEGOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Ffiseg Craidd Rhan 1 neu MT11210 a MT11010
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 x darlith 1-awr (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg)
Sesiwn Ymarferol 11 x gweithdy 2-awr (Bydd darpariaeth Gymraeg ar gyfer cyfran o'r gweithdai)
Eraill 1 sesiwn termau 1-awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 3 Awr   Ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Asesiad: 2 BRAWF  30%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Mynegi systemau a pherthnasoedd fedru ffisegol cyffredin yn nhermau iaith fathemategol fectorau, hafaliadau differol a theori Fourier

2. Defnyddio fectorau, algebra fector a systemau cyfesurynnau gwahanol i ddatrys problemau ffisegol mewn gofod 3-dimensiwn

3. Cymhwyso gwahanol ddulliau o ddatrys i fathau amrywiol o hafaliadau differol

4. Datrys problemau gwerth eigen syml yn y gwyddorau ffisegol

5. Disgrifio ac egluro cysyniadau dadansoddiad Fourier, troelliad a chydberthyniad, a chymhwyso technegau dadansoddiad Fourier i broblemau mewn systemau ffisegol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn datblygu amrywiaeth o theoriau mathemategol: ddadansoddiad fector, hafaliadau differol a dadansoddiad Fourier. Cymhwysir y rhain i fodelu a datrys problemau mewn nifer eang o sefyllfaoedd ffisegol; electrostateg, magneteg, disgyrchedd, mecaneg, thermodynameg, ffiseg plasma, ffiseg atmosffer a mecaneg hylif.

Cynnwys

Dadansoddiad fector: lluoswm triphlyg sgalar a fector, cyfesurynnau polar, meysydd sgalar a fector 3-D, graddiant, dargyfeiriad a chwrl meysydd 3-D, gweithredydd fector, integrynnau llinell, integrynnau arwyneb. Hafaliadau differol: hafaliadau differol cyffredin o unrhyw drefn, hafaliadau differol cydamserol, hafaliadau differol rhannol, problemau gwerth eigen. Dadansoddiad Fourier o signalau, paramedrau cyflenwol (e.e. amledd ac amser), trawsffurfiadau Fourier, sbectrwm pwer.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Drwy waith ysgrifenedig: datrys problemau, arholiadau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ddim yn berthnasol
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth yn y testunau
Gwaith Tim Ddim yn berthnasol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ddim yn berthnasol
Rhifedd Yn anhepgor i gwrs Ffiseg
Sgiliau pwnc penodol Trafod y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ddarllen yn eang am y maes
Technoleg Gwybodaeth Defnyddi'r TG i ymchwilio'r maes

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5