Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF35220
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD ESTYNEDIG 1
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Rhagofynion
GF10110 neu GF30110

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Bydd angen cyflwyno'r adroddiad ymchwil yn ystod wythnos 8 y semester perthnasol. Os na chyflwynir adroddiad ymchwil boddhaol, caiff 5 marc eu tynnu o farc terfynol y traethawd estynedig.  100%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methu'r asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwyno'r traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir i'r myfyriwr fynychu unrhyw o'r darlithoedd sydd yn rhan o'r modiwl os yw'n dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda chyd-lynydd y modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gellir crynhoi amcanion yr elfennau o hyfforddiant ymchwil fel a ganlyn:

a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas

b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data

c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd

d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno'r ddadl a'r wybodaeth yn effeithiol

e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.

Disgrifiad cryno

Modiwl tra gwahanol yw'r modiwl hwn o gymharu a modiwlau eraill yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan ei fod yn ymdrin a gwaith ymchwil ac ysgrifennu estynedig ar bwnc arbennig yn hytrach na phwnc a arweinir gan y darlithwyr. Mater ydyw i'r myfyriwr unigol i ddewis eu maes pwnc ar gyfer ymchwil manwl gydag arweiniad a sel bendith gan yr Adran. Yna, mater iddo/iddi ydyw i ymchwilio ac ysgrifennu am y testun o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd ag ymwybyddiaeth o'r maes pwnc sydd yn gefndir i'r testun. Pwrpas y modiwl yw meithrin sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu, a chan hynny, adeilada ar yr wybodaeth a'r hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell a enillwyd yn y modiwl Proses Gyfreithiol. Dibynna'r gallu i ymchwilio yn effeithiol ar y gallu i ddefnyddio ystod eang o adnoddau llyfrgell ac i ganfod adnoddau drwy ddefnyddio cronfeydd data a theclynnau llyfryddiaeth. Rhoddir arweiniad gan y goruchwyliwr drwy gyfres o gyfarfodydd lle disgwylir i'r myfyriwr adrodd ar ddatblygiad yr ymchwil a chyflwyno drafftiau ysgrifenedig er mwyn derbyn adborth. Rol y goruchwyliwr yw cynghori'r myfyriwr ynghylch y dulliau ymchwil a ddefnyddir a sut i gyflwyno'r canlyniadau yn y traethawd ei hunan.

Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd a gwaith ymchwil am y tro cyntaf.

Diben asesu'r adroddiad ymchwil yw cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil a'r galluogi i wella eu perfformiad yn gyffredinol. Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'r briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw'r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a'r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu'r gallu i weithio'r gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu'r effeithiol yn ysgrifenedig.

Nod

Meithrin sgiliau a gysylltir a darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i'r rhai a ddatblygir drwy'r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Foster, Steve (2009.) How to write better law essays :tools and techniques for success in exams and assignments /Steve Foster. 2nd ed. Pearson Education Ltd Chwilio Primo Hutchinson, Terry C. M. (2006.) Researching and writing in law /by Terry Hutchinson. 2nd ed. Lawbook Co. Chwilio Primo Huxley-Binns, Rebecca. (2008.) Unlocking legal learning /Rebecca Huxley-Binns, Leon Riley, Chris Turner. 2nd ed. Hodder Arnold Chwilio Primo Robson, Colin. (c2007.) How to do a research project :a guide for undergraduate students /Colin Robson. Blackwell Pub. Chwilio Primo Salter, Michael (2007.) Writing law dissertations :an introduction and guide to the conduct of legal research /Michael Salter and Julie Mason. Pearson Chwilio Primo Strong, Stacie I. (c2006.) How to write law essays and exams /S.I. Strong. 2nd ed. Oxford University Press Chwilio Primo Swetnam, Derek. (2000 (various p) Writing your dissertation :how to plan, prepare and present successful work /Derek Swetnam. 3rd ed. How to Books Chwilio Primo Walliman, Nicholas S. R. (2004.) Your undergraduate dissertation :the essential guide for success /Nicholas Walliman. SAGE Chwilio Primo Webley, Lisa. (2005.) Legal writing /Lisa Webley. Cavendish Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6