Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AG25320
Teitl y Modiwl
BWYD, FFERMIO A'R AMGYLCHEDD
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 2 x darlith 2 awr bob wythnos
Eraill Trafodaeth, i'w threfnu gan gyd-gysylltydd y modiwl yn ystod y semester.
Sesiwn Ymarferol 3 x ymweliad 4 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Egluro'r broses ecolegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu bwyd.

Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.

Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.

Gwerthuso effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.

Trafod y cysyniad o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen i ddeall yr agweddau ecolegol cymwysedig ar systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl yma yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Mae'r modiwl wedi'i lunio i dynnu sylw at faterion sy'n ymwneud a'r gadwyn fwyd ddynol gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaladwyedd, effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol a dyframaethyddol, datblygu polisi amaethyddol, pryder y cyhoedd am gynhyrchu bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a'r galwadau gan gwsmeriaid a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Cynnwys

1. Egluro'r prosesau ecolegol sy'n digwydd mewn systemau amaethyddol.
2. Disgrifio diwydiant cyflenwi bwyd y DU a materion allweddol ynghylch pryder y cyhoedd am y gadwyn fwyd.
3. Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.
4. Datblygu gwerthfawrogiad o faterion polisi bwyd a globaleiddio.
5. Datblygu dealltwriaeth o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn rhan o'r aseiniad bydd angen cynhyrchu adroddiad ar fater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd ddynol a sut mae'n cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol, gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd y myfyriwr a chyfiawnhau dadansoddiadau beirniadol a chasgliadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nod canlyniadau'r modiwl yw darparu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth o egwyddorion a gwybodaeth y mae ymarferwyr eu hangen yn yr amgylchedd gwledig ehangach er mwyn trafod ac ymdrin â materion sy'n peri pryder yn y byd cyhoeddus a'r byd gwyddonol, a hynny yng nghyd-destun y gadwyn fwyd ddynol.
Gwaith Tim Bydd y drafodaeth ffurfiol yn datblygu gallu'r myfyrwyr i drafod a dadansoddi gwybodaeth mewn fforwm grwp rhyngweithiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod canlyniadau'r modiwl yw darparu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth o egwyddorion a gwybodaeth y mae ymarferwyr eu hangen yn yr amgylchedd gwledig ehangach er mwyn trafod ac ymdrin â materion sy'n peri pryder yn y byd cyhoeddus a'r byd gwyddonol, a hynny yng nghyd-destun y gadwyn fwyd ddynol.
Rhifedd I ddadansoddi'r llenyddiaeth berthnasol bydd angen i fyfyrwyr ddeall a dehongli gwybodaeth rifyddol, yn enwedig yng nghyd-destun data cynhyrchu, marchnata ac asesu risg.
Sgiliau ymchwil Bydd yr aseiniad yn datblygu gallu'r myfyriwr i weithio'n annibynnol gan gyfuno gwybodaeth wyddonol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd i werthuso'n feirniadol sut mae mater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd yn cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol (asesir trwy waith cwrs).
Technoleg Gwybodaeth Bydd angen defnyddio ffynonellau ar y rhyngrwyd yn helaeth er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer yr aseiniad (asesir yn rhan o waith cwrs).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5