Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG13110
Teitl y Modiwl
MICROBIOLEG
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
BS13110
Rhagofynion
Students should have Welsh language skills up to GCSE standard. Individuals without this qualification will be assessed for eligibility.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesu gwaith ymarferol drwy gyfrwng profion amlddewis.  30%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y semester.  70%
Asesiad Ailsefyll 2 Awr   Un arholiad ysgrifenedig 2 awr; ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu a gollwyd neu ddewis arall (fel y pennir gan y bwrdd arholi).  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

  • gwerthuso pwysigrwydd micro-organebau mewn cylchu biogeocemegol a biotechnoleg
  • egluro sut y mae micro-organebau yn rhyngweithio gydag organebau eraill, gan gynnwys pobl, fel pathogenau a chydymddibynwyr.
  • disgrifio amrywiaeth y ffurfiau ar fywyd yng nghyswllt micro-organebau ewcaryotig a phrocaryotig.
  • dangos sgiliau ymarferol wrth drin a thrafod micro-organebau.
  • cyfathrebu terminoleg ficrobiolegol a chysyniadau allweddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad cryno

Lluniwyd y modiwl hwn fel cyflwyniad i fywyd microbaidd yn ei holl gyfoeth ac i bwysigrwydd micro-organebau fel pathogenau, fel cydymddibynwyr (e.e. systemau treulio anifeiliaid, mycorhisau ayyb.) mewn biotechnoleg (cynhyrchu bwyd, fferylleg, ayyb.) ac i weithrediad ecosystemau.

Cynnwys

Mae'r cwrs darlithoedd yn dechrau a thrafodaeth o dri pharth bywyd ac yn cymharu procaryotau ac ewcaryotau. Mae'r rhan fwyaf o amrywiaeth genetig a metabolaidd organebau byw yn ficrobaidd, ac y mae'r modiwl yn amlygu hyn o'r cychwyn. Yn ogystal, archwilir agweddau cymhwysol microbioleg sy'n uniongyrchol berthnasol i bobl, megis pwysigrwydd microbau mewn bwydydd lefeiniedig (e.e. gwin, caws, ayyb.), yng nghynhyrchiad cyffuriau (e.e. penisilin/ensymau) ac fel cyfryngau bioreolaeth.
Cyflwynir Bacteria ac Archaea procaryotig, gan bwysleisio morffoleg, ffisioleg ac ecoleg cyn gorffen gydag archwiliad o'u rol mewn afiechydon dynol. Caiff strwythur a chylch bywyd firysau eu harchwilio ac edrychir ar eu rol o safbwynt afiechyd a swyddogaeth ecosystemau.
Cyflwynir byd y Ffyngau drwy gyfrwng arolwg o'r prif grwpiau. Mae'r darlithoedd hyn yn trafod dosbarthiad organebau byw ac amrywiaeth ffurf, systemau genetig a strategaethau bywyd. Yna, archwilir sut y mae ffwng yn tyfu gan ddechrau gyda'r blaen hyffaidd a gorffen gyda thrafodaeth o fyceliwm ffwngaidd. Mae'r rhan yma o'r modiwl yn darfod gydag arolwg o rol ffyngau ym mhydrad daearol ac mewn afiechyd planhigion, ac fel symbiontiaid cydymddibynnol planhigion ac anifeiliaid.
Mae rhan olaf y cwrs yn archwilio amrywioldeb micro-organebau ffotosynthetig o ran ffurf a swyddogaeth, gan gyflwyno procaryotau ac ewcaryotau (algau) ffotosynthetig. Yna, rhoddir ystyriaeth i uwch-adeiledd, morffoleg, twf ac atgynhyrchiad celloedd, sefydlogiad nitrogen a swyddogaeth heterosyst mewn syanobacteria.
Bydd dosbarthiadau ymarferol yn egluro ac yn cyfnerthu'r darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio microsgopeg golau i archwilio amrywiaeth o ficro-organebau. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau trin a thrafod micro-organebau yn ddiogel drwy gyfrwng archwiliadau arbrofol syml. Erbyn diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr yn gyfarwydd a thechnegau sterilaidd syml o drin micro-organebau. Defnyddir microsgopeg fideo yn helaeth i helpu i ddehongli'r deunydd ymarferol. Asesir gwaith ymarferol drwy gyfrwng profion yn y dosbarthiadau ymarferol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a'r trafodaethau yn dilyn hynny mewn dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu'n effeithiol ar bapur mewn arholiadau. Bydd gwybodaeth o ddarlithoedd Saesneg a deunydd ategol yn Gymraeg yn gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd â'r derminoleg gywir, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy'n berthnasol i ficrobioleg. Hefyd, bydd hyn yn rhoi iddynt fwy o hyder i drafod materion microbiolegol yn ddwyieithog, rhugl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn cael hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac i asesu ansawdd yr atebion a gynigir.
Datrys Problemau Drwy gyfrwng y darlithoedd, bydd myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o'r problemau amgylcheddol a meddygol sy'n cael eu hachosi gan ficrobau ac o'r datrysiadau a ddatblygwyd i oresgyn y problemau hyn. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o gynllunio a chyflawni arbrofion, dehongli data a sylwi ar arbrofion microbioleg sy¿n cael eu hasesu.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau yn y sesiynau ymarferol. Bydd gofyn iddynt drafod cynllun eu harbrawf a gweithio'n effeithiol fel tîm bychan yn y dosbarthiadau ymarferol. Trwy grwpio'r myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn (mewn parau) yn sesiynau ymarferol mwy BS13110, a'r ffaith fod arddangoswr sy'n siarad Cymraeg ar gael, ceir cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar yn Gymraeg.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr wneud ychydig o waith ymchwil, trefnu eu hamser, a chwrdd a dyddiadau cau. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu hoff ddulliau dysgu, ac i nodi eu hanghenion ac unrhyw rwystrau i'w dysg. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd, a chynllunio er mwyn gwella eu perfformiad personol.
Rhifedd Casglu ac archwilio data o ran ansawdd a swm. Dehongli data.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organebau mewn cylchu biogeocemegol a biotechnoleg, ac egluro sut y mae micro-organebau yn rhyngweithio gydag organebau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio'r amrywiaeth o fodau byw ymhlith micro-organebau ewcaryotig a phrocaryotig. Bydd myfyrwyr yn caffael sgiliau allweddol o ran trin a thrafod sbesimenau microbiolegol.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i destunau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y darlithoedd, a hynny drwy astudiaeth annibynnol a than gyfarwyddyd. Bydd gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn destun archwiliad a sylwadau manwl. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trin a thrafod sbesimenau microbiolegol) ar gyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd academaidd.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we i gael ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lenyddiaeth wreiddiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4