Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FGM5860
Teitl y Modiwl
PROSIECT ESTYNEDIG
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Cyd-Ofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol Gwaith prosiect yn ystod amser gweithio arferol; cyfarfodydd rheolaidd gyda'r goruchwyliwr, gyda chefnogaeth gan diwtor cyfrwng Cymraeg.
Darlithoedd 40 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (drwy'r Gymraeg)  15%
Asesiad Semester Cynnydd  10%
Asesiad Semester Ymarferiad ar baratoi ac adolygu prosiect  15%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:

- cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil estynedig
- dehongli a thrafod eu canlyniadau yng ngoleuni gwybodaeth gyfredol ar y testun
- cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol
- paratoi, cyflwyno ac adolygu cais ymchwil

Disgrifiad cryno

Wedi cwblhau'r traethawd project (FGM5010 neu PHM5010) ac elfen gynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn gweithio ar broject sydd fel arfer ar destun sy'n gysylltiedig â gwaith ymchwil yn y Sefydliad, o dan oruchwyliaeth arolygydd project. Bydd angen dehongli canlyniadau y project a'u trafod yng ngoleuni y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil. Caiff y gwaith ei gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol. Mae cwrs preswyl yn Gregynog yn rhan o'r modiwl. Caiff hwn ei gynnal ar ddechrau'r semester a chaiff ei drefnu ar y cyd gan staff Ffiseg Aberystwyth a Chaerdydd. Yn rhan ohono mae sesiynau ar gynllunio project, cyfathrebu a sgiliau hunan reoli, a gwaith grŵp strwythuredig ar gyflwyno ac adolygu projectau.

Darperir manylion pellach yn llawlyfr y Prosiect Estynedig.

Cynnwys

Bydd testun yr ymchwil yn wahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod y gwaith prosiect ar lafar drwy'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Rhoddir y gefnogaeth cyfrwng Cymraeg naill ai gan y goruchwyliwr neu gan diwtor prosiect cyfrwng Cymraeg.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Cwrs preswyl yng Ngregynog
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7