Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FTM2030
Teitl y Modiwl
ASTUDIAETH A DADANSODDIAD O WAHANOL GENRE YM MYD RADIO
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Pob modiwl craidd arall
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester *Traethawd Ymchwil Genre : dogfen o gasgliadau ymchwil a fydd yn amlinellur prif feysydd maer myfywyr wediu hastudio, gan nodi technegau cyffredin a ganfuwyd, enghreifftiau o raglenni syn defnyddior technegau yma a dadansoddiad o effeithlonrwydd fformatiau cynhyrchu au cynulleidfaoedd targed yn ogystal a chyd-destun hanesyddol. (3,000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester *Cynhyrchu pecyn radio nodwedd rhwng 430 a 5 o hyd, wedii seilio ar genre penodol. Iw gyflwyno ar CD.  40%
Asesiad Semester *Portffolio Cynhyrchu : yn seiliedig ar asesiad 2, bydd gofyn i fyfyrwyr baratoi dogfen syn cynnwys manylion am y genre dan sylw, y ffynonellau ysgrifenedig, person/au a holwyd, agweddau penodol a astudiwyd. (2,000 o eiriau)  20%
Asesiad Ailsefyll Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un patrwm ond fe fydd yn rhaid dewis pwnc a strwythur creadigol gwahanol. 

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos a dadansoddi'n feirniadol sut mae genres yn gweithio ym myd radio.
2. Amlygu a gwerthuso sut mae arddull a fformat yn cael eu creu oddi mewn i'r genres gwahanol.
3. Amlygu dealltwriaeth rhagorol o gymhlethdodau'r naratif mewn genre penodol.
4. Trafod natur cynulleidfaoedd radio mewn modd cydlynus.
5. Datblygu syniadau gwreiddiol yn eitem fer sy'n cwrdd a safonau darlledu.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i genre o'u dewis er mwyn gwella'u dealltwriaeth o ofynion confensiynau'r genre hwnnw a'r dullliau cynhyrchu mwyaf cyffredin sy'n perthyn iddo. Bydd astudiaeth fanwl o'r gwahanol dechnegau a'r defnydd o ddeunyddiau ymchwil penodol ar gyfer rhaglenni sy'n perthyn i fathau gwahanol o genres radio. Mae dwy ran amlwg i'r modiwl hwn. Yn y rhan gyntaf, fe fydd y myfyrwyr yn gwneud ymchwil trylwyr i genre o'u dewis, ochr yn ochr a chyfres o ddarlithoedd sy'n ystyried dulliau methodolegol. Yn ail, fe fyddant yn cyflwyno cynnig ymchwil ar gyfer un eitem benodol mewn genre o'u dewis ac yn mynd ati fel unigolion i wneud gwaith ymchwil gan ddefnyddio nifer o ffynonellau gwahanol: cyfweliadau archif a phersonol, deunydd ar-lein ac adolygiad o ffynnonellau perthnasol. Caiff eu casgliadau eu cyflwyno mewn Dogfen Ymchwil Genre ac fe gaiff yr eitem ei chynhyrchu ar sail y casgliadau yma.

Cynnwys

(Darlithoedd - 10 x 2 awr; Tiwtorials - 2 x 1 awr; Seminarau - 3 x 1 awr yn datblgu cysyniadau dogfen ffeithiol, cereddoriaeth a'r celfyddydau.)
Darlithiau
Cyflwyniad i gonfesiynau mewn genre
Daw amryw o destunau o dan ambarel rhaglenni ffeithiol - yn eu plith, newyddion a materion cyfoes, crefydd, celfyddydau, diwylliant poblogaidd, busnes, hanes, materion amgylcheddol, cerddoriaeth, natur, pobl a lleoedd. Gyda phwyslais y gwasanaeth ar y gair, mae amserlen Radio 4 yn cynnwys rhaglenni nodwedd, dogfen, drama ac adloniant ysgafn/comedi yn bennaf. Defnyddir enhreifftiau o'r rhain i ddanansoddi mathau penodol o genres radio, ynghyd ag allbwn Radio Wales a Radio Cymru. Defnyddir enghreifftiau hefyd o orsafoedd Radio 1, 2, 3, 5, Classic FM, Real Radio a Radio Sir Benfro wrth ddadansoddi'r genres gwahanol a geir ym myd radio. Y nod yw sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth eang o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal a radio masnachol. Bydd yr astudiaeth o'r genres canlynol yn cynnwys elfennau am y gynulleidfa, cynhyrchu a rhaglenni.
Dogfen Ffeithiol
Daw amrywiaeth eang o bynciau o dan raglenni ffeithiol (penodol a chyffredinol), megis diwylliant poblogaidd, busnes, hanes, gwyddoniaeth, materion amgylcheddol, cerddoriaeth, natur, pobl, llefydd, a.a. Bydd fformat rhaglenni nodwedd, thema, materion cyfoes a dogfen hanesyddol yn cael eu dadansoddi yma.
Celfyddydau
Mae genre y celfyddydau a diwylliant yn cynnwys ystod eang o feysydd, megis cerddoriaeth o bob math, llenyddiaeth, comedi, sinema, dawns, drama, celfyddydau gweledol, pensaerniaeth, ffasiwn, cynllunio, dylunio, gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhaglenni yn genre y celfyddydau a diwylliant yn defnyddio sawl fformat gwahanol - yn rhaglenni nodwedd neu gylchgrawn, yn ddogfen, yn rhaglenni trafod, rhaglenni cerddorol, nosweithiau a thymhorau thema, darllediadau allanol o ddigwyddiadau arbennig. Caiff y rhain eu hastudio a'u dadansoddi fel rhan o'r sesiwn hon.
Cerddoriaeth
Mae fformat a dulliau cynhyrchu rhaglenni nodwedd sy'r canolbwyntio ar gerddoriaeth yn amrywio yn ol natur yr orsaf a'r gynulleidfa. Caiff enghreifftiau o Radio 1, Radio 3 a Real Radio eu dadansoddi yma.
Rhaglenni Dyddiol
Mae gorsafoedd radio yn ceisio asio tempo, arddull a chynnwys eu rhaglenni gyda gweithgareddau bob dydd eu gwrandawyr. Yma, byddwn yn astudio ac yn dadansoddi rhaglenni sy'n cael eu darlledu amser brecwast, yn ystod y dydd, amser te, amser swper ac yn ystod y nos.
Newyddion/Materion Cyfoes a Chwaraeon
Mae gallu radio i ymateb yn syth i ddigwyddiadau yn golygu ei fod yn gyfrwng delfrydol ar gyfer trosglwyddo newyddion. Mae pwysigrwydd newyddion a gwerthoedd newyddion yn amlwg wrth ystyried yr amrywiaeth o raglenni o'r fath a geir ar draws gorsafoedd cerddoriaeth a siarad. Bydd bwletinau newyddion, rhaglenni trafod a dogfen, a sioeau ffonio-i-mewn yn cael eu hastudio a'u dadansoddi. Mae'r sylw a roddir i chwaraeon yn amrywio o orsaf i orsaf. Mae'n rhan ganolog o allbwn rhwydweithiau fel Radio 5 Live, tra fo'r amser a gaiff ar rwydweithiau cenedlaethol eraill yn amrywio. Mae chwaraeon yn bwysig i'r rhan fwyaf o orsafeoedd lleol a rhanbarthol am ei fod yn gallu atgyfnerthu'r berthynas rhwng yr orsaf a'r gynulleidfa. Bydd rhaglenni stiwdio a darllediadau allanol yn cael eu hastudio a'u dadansoddi yma.
Adloniant Ysgafn/Comedi
Ceir rhaglenni o bob math oddi mewn i'r genre adloniant ysgafn/comedi - yn gomedi stand-up a chomedi sgets, yn rhaglenni cwis a phanel, a.a. Mae naratif comedi yn cynnwys drama gomedi, drama sefyllfa a dramateiddio at ddibenion adloniant. Bydd enghreifftiau o'r rhain yn cael eu hastudio a'u dadansoddi.
Digwyddiadau a Darllediadau Allanol
O Wimbledon i angladd Diana, Tywysoges Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol, mae digwyddiadau ac achlysuron arbenning yn cael eu hadlewyrchu trwy ddarllediadau allanol byw ar y radio. Mae rhaglenni o'r fath yn gofyn am gynllunio technegol a chreadigol hynod o fanwl. Mae digwyddiadau fel hyn yn gallu codi proffil

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu yn rhan annatod o holl weithgareddau'r cwrs yma ac fe gaiff ei ddatblygu a'i asesu trwy gydol y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i benderfynu ymha genre mae eu prif ddiddordeb/medrau, boed mewn rhaglenni dogfen hanesyddol neu raglenni cerddoriaeth er enghraifft.
Datrys Problemau Mae'r broses gynllunio a chynhyrchu yn un anwadal ei natur, ac o'r herwydd mae gofyn i fyfyrwyr ddatrys problemau yn gyson wrth weithio ar eu rhaglenni unigol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff myfyrwyr eu hannog i wrando ar bob math o raglenni radio a'u dadansoddi. Bydd hyn yn gwella'u dysgu au perfformiad.
Sgiliau ymchwil Datblygir medrau ymchwil trwy gydol y modiwl ac fe gaiff y rhain eu hasesu yn yr aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir TG ar gyfer rhywfaint o'r gwaith ymchwil yn ystod y modiwl hwn.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Baldwin, T (1996) Convergence: Integrating Media, Information and Communication Sage Chwilio Primo Barlow, David. M. Mitchell, Philip. O`Malley, Tom (2005) The Media in Wales: Voices of a Small Nation . University of Wales press, Cardiff Chwilio Primo Boyd, Andrew Fifth Edition Broadcast Journalism Techniques of Radio and Television News Focal Press Chwilio Primo Chater, K. (1998) Production Research: An Introduction Focal Press Chwilio Primo Davies, J (1994) Broadcasting and the BBC in Wales University of Wales Press Chwilio Primo Hart, Andrew (1991) Understanding the Media: A Practical Guide Routledge Chwilio Primo Jarvis, P (1993) A Production Handbook: A Guide to the Pitfalls of Programme Making Focal Press Chwilio Primo Shingler, Martin. Cindy Wieringa (1998) On Air: Methods and Meanings of Radio Hodder Arnold Chwilio Primo Tacchi, Jo (2001) Who listens to Radio? The role of Industrial Audience Research. No News is Bad News: Radio, Television and the Press p 137-156 Longman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7