Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 30 awr. Dwy ddarlith un awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 awr. Tri seminar awr o hyd ym mhob semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 100% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, dylai'r myfyrwyr fod yn gallu:
Erbyn diwedd y cwrs, dylai'r myfyrwyr fod wedi meithrin dealltwriaeth o strwythur gweithdrefnau cyfreithiol Ewrop, eu cydberthynas, swyddogaethau'r prif Sefydliadau Ewropeaidd, a phrosesau deddfu a chymhwyso'r gyfraith ar lefel Ewropeaidd. Dylent hefyd fod wedi meithrin lefel resymol o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd ar gyfraith Ewropeaidd, wrth ymresymu ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac wrth ddadansoddi problemau trwy ddefnyddio methodoleg cyfraith Ewropeaidd, ynghyd a dealltwriaeth o'r ffordd y mae gwahanol fathau o gyfreithiau Ewropeaidd yn rhyngweithio a systemau cyfraith gwlad.
Disgrifiad cryno
Diben y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth am brif elfennau'r systemau cyfreithiol Ewropeaidd hyn a chyflwyniad i'r deunyddiau a'r fethodoleg a ddefnyddir o fewn y systemau. Mae rhai agweddau pwysig o'r deunyddiau cyfreithiol a ddefnyddir yn yr Undeb Ewropeaidd ac o dan systemau cyfreithiol Ewropeaidd eraill yn wahanol iawn i'r rhai a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr ac felly mae dysgu sut i ddefnyddio'r ffynonellau hyn a dysgu am y dulliau cyfreithiol Ewropeaidd yn rhan bwysig o'r cwrs. Mae'r modiwl yn rhagofyniad ar gyfer astudiaeth bellach o gyfraith Ewrop [Modiwl GF/LA32410].
Bydd y modiwl yn olrhain datblygiad y systemau cyfreithiol a seilir ar yr Undeb Ewropeaidd ac sy'n codi o fewn fframwaith Confensiynau Cyngor Ewrop, yn esbonio eu prif nodweddion ac yn ystyried eu cydberthynas. Bydd ffocws arbennig ar y gwahaniaeth rhwng trefniadau cyfreithiol 'goruwchgenedlaethol' system fwy integredig yr Undeb Ewropeaidd a'r dull 'rhynglywodraethol' a ddefnyddir gan yr Undeb a chan Gyngor Ewrop. O angenrheidrwydd, bydd rhan sylweddol o'r cwrs yn ymdrin a'r broses ddeddfu, gweithredu a gorfodi cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd. Ymhlith y materion pwysig a drafodir mae'r berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r systemau cenedlaethol ers i'r rhan fwyaf o gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd ddod i rym yn llysoedd ac asiantaethau'r aelod-wladwriaethau. Mae astudio'r problemau sy'n codi wrth rannu'r swyddogaethau hyn o fewn system yr Undeb Ewropeaidd (deddfu a dehongli'r gyfraith ar lefel yr Undeb Ewropeaidd a'i gorfodi ar lefel genedlaethol) yn thema bwysig yn y rhan yma o'r cwrs.
Nod
Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth o strwythur a methodoleg gorchmynion cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd a'r cyfundrefnau a sefydlwyd gan Gonfensiynau Cyngor Ewrop; hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith gyffredinol y gyfraith Ewropeaidd ar weithrediad y system gyfreithiol genedlaethol; a bodloni gofynion proffesiynol ar lefel gyntaf hyfforddiant ym maes y gyfraith Ewropeaidd.
Cynnwys
1. Cyflwyniad i'r ffynonellau gwybodaeth a'r llenyddiaeth berthnasol.
2. Gorolwg o gyfundrefnau cyfreithiol Ewrop: yn arbennig yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop
- eu datblygiad
- eu hamcanion
- eu cydberthynas
- modelau rhynglywodraethol a goruwchgenedlaethol
3. Gweithgareddau Cyngor Ewrop, gan gyfeirio'n arbennig at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a'i drefn o amddiffyniad cyfreithiol.
4. Strwythur yr Undeb Ewropeaidd
- y prif gytuniadau
- Sefydliadau'r UE
- cymwyseddau'r Undeb
- fframwaith cyfreithiol 'geometreg newidiol'
5. Gydweithredu barnwrol a rhwng heddluoedd, gweithgarwch cyfreithiol a chyfundrefnau cysylltiedig.
6. Nodweddion sylfaenol trefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd: athrawiaeth goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a rol a dulliau gweithredu llysoedd yr Undeb Ewropeaidd.
7. Prosesau deddfu'r UE a chategoriau cyfreithiau'r UE.
8. Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd
- sut mae'r Undeb Ewropeaidd a chyrff yr Aelod-wladwriaethau yn rhoi grym i'r rheolau a rol Llys Cyfiawnder Ewrop
- gorfodaeth, yn erbyn Aelod-wladwriaethau ac yn erbyn unigolion
- rôl yr athrawiaeth effaith uniongyrchol a'r egwyddorion cysylltiedig
9. Atebolrwydd yng nghyfraith y Gymuned Ewropeaidd
- atebolrwydd sefydliadau'r UE
- cyfyngiadau cyfreithiol ar y pwerau i wneud penderfyniadau
- adolygiad barnwrol o weithredoedd yr UE
- mathau eraill o atebolrwydd
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydChalmers, Damian (2010) European Union Law: text and materials 2nd ed. Cambridge University Press Chwilio Primo Craig, P.P. (2007) EU Law: texts, cases and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation (2004) 9th ed. Oxford University Press
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4