Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA37430
Teitl y Modiwl
DIWYLLIANT, CYMDEITHAS A'R FICTORIAID: BYWYDAU CYHOEDDUS A PHREIFAT
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
HY37430

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 darlith (50 munud yr un)
Seminarau / Tiwtorialau 10 seminar (50 munud yr un)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 3 Awr   ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 3 AWR  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth bendant o ddulliau cyfoes a dadleuon ynglyn a hanes diwylliant Fictoraidd

Arddangos gwybodaeth gyffredinol o ddiwylliant Fictoraidd

Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynhionellau gwreiddiol ac eilaidd

Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol

Arddangos y gallu i weithio fel unigolion ac mewn grwpiau

Arddangos y medrau sydd yn briodol i astudio diwylliant Fictoraidd a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol

Disgrifiad cryno

Pwy oedd y Fictoriaid ym meddwl oedden' nhw? Sut oeddynt yn meddwl am eu hunain a'u diwylliant? Roedd Fictoriaid o bob dosbarth yn ymybodol eu bod yn byw mewn byd oedd yn newid yn gyflym ac roedd ganddynt gryn dipyn i'w ddweud ar y mater. Yn aml, roedd perthynas glos rhwng syniadau ynglyn a delwedd gorfforol yn cyd-fynd gyda synidau ynglyn a moesoldeb ac fel canlynaid roedd trafodaethau ynglyn a sut i drin y corff yn chwarae rhan bwysig yn eu hymgeision i greu delweddau o'u hunain a fyddai'n briodol i fyd newydd diwydiannol, trefol a modern. Bydd y modiwl yma yn edrych ar sut roedd y Fictoriaid yn edrych ar eu hunain o nifer o wahanol agweddau, gan gynnwys ffasiwn, ymddygiad, meddygaeth a rhyw. Byd yn defnyddio nifer o ffynhonellau gwahanol gan gynnwys llyfrau ar ymddygiad, llawlyfrau meddygol, hysbysebion a chylchgronnau

Nod

Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i rai o'r dulliau a'r agweddau hanesyddol a ddefnyddir er mwyn dadansoddi diwylliant cyfnod Fictoria, gan dalu sylw arbennig i syniadau Fictoraidd ynglyn a'r berthynas rhwng y corff a hunaniaeth. Fel y cyfryw, mae'r modiwl yn ychwanegu at rai presennol mewn hanes modern, hanes meddygaeth a hanes cymdeithasol ac economaidd.

Cynnwys

Darlithiau
1. Ail-ymweld a'r sterioteip Fictoraidd
2. Stad y Genedl
3. Bywyd Cyhoeddus, Preifat a Theuluol
4. Cael eich Gweld
5. Difrifwch a Diddanwch
6. Gwella eich Hun
7. Cristnogaeth Gyhyrog
8. Cyrff a Meddyliau Fictoraidd
9. Rhyw a'r Fictoriaid
10. Ffasiwn Fictoraidd
11. Prynu'r Corff Perffaith
12. Peirianwaith y Corff
13. Boneddigion a Boneddigesau
14. Carcharu a Rheoli
15. Nerfusrwydd a Dirywiad
16. Perfformio a Pharchusrwydd
17. Yr Hunan Fictoraidd
18. Edrych yn ol

Seminarau

1. Pwy oedd y Fictoriaid?
2. Fictoriaid yn Breifat
3. Fictoriaid yn Gyhoeddus
4. Athroniaeth Hunan-wellhad
5. Cyrff a Meddyliau Fictoraidd
6. Prynu'r Corff Fictoraidd
7. Ymddygiad a Moeseg
8. Pwy oedd ddim yn Fictoraidd?
9. Bod yn Barchus
10. Edrych yn ol

Tiwtorialau Unigol
Dau diwtorial o 15 munud er mwyn cyflwyno adwaith

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn a diwylliant Fictoraidd; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6