Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC22020
Module Title
GENRAU TELEDU
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Cwblahu Rhan 1 yn llwyddiannus
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd (2000 o eiriau)  40%
Semester Assessment Portffolio Critigol (3000 o eiriau)  60%
Supplementary Assessment Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd)  40%
Supplementary Assessment Portffolio Critigol (3000 o eiriau)  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Trin a thrafod y prif ddadlueon a theoriau yn y maes, yn enwedig theori genre
2. Egluro nod a phwrpas teledu yn y gymdeithas a'r byd masnachol
3. Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli teledu
4. dadansoddi a dehongli rhaglenni o nifer o wahanol genrau

Aims

Diwygir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwythuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn edrych ar un o brif ffynonellau adloniant a gwybodaeth cymdeithasau ar draws y byd ers degawdau.

Content


Darlithoedd:
1. Theoriau traddodiadol teledu
2. Teledu a Chynrychiolaeth Cymdeithasol
3. Y Gwyliwr Gweithredol
4. Cynhyrchu Teledu
5. Newyddion
6. Opera Sebon
7. Drama Deledu
8. Dogfen
9. Chwaraeon
10. Comedi

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar deledu drwy brism nifer o genrau. Fydd trean cyntaf y tymor yn edrych ar ddamcaniaethau sylfaenol ar gyfer astudio teledu, ac fe fydd y gweddill y semester yn edrych ar nifer o genrau teledu.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ddim yn berthnasol i'r modiwl.
Communication Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Improving own Learning and Performance Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Information Technology Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Problem solving Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Subject Specific Skills
Team work Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.

Notes

This module is at CQFW Level 5