Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC31440
Module Title
PROSIECT CYNHYRCHU UWCH
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Arddangos gallu i gyflawni anghenion eu rol neilltuol (naill ai fel perfformiwr, is-gyfarwyddwr, rheolwr llwyfan neu ddylunydd) yn ol gofynion celfyddydol, technegol neu/ac ymarferol y cynhyrchiad a ddewiswyd; Arddangos gallu i ddeall amcanion sylfaenol y cynhyrchiad fel y disgrifir hwy gan gyfarwyddwr y prosiect, ac i weithredu'n drwyadl ac yn fanwl wrth gyflawni'r amcanion hynny.

Arddangos gallu i newid ac addasu eu ffordd o weithredu er lles y cynhyrchiad wrth ymateb i gyfarwyddyd gan arweinwyr y prosiect a chan gyd-fyfyrwyr, ac ym mhresenoldeb cynulleidfa fyw; Arddangos gallu i ddatblygu deallusrwydd annibynnol o'r gwaith cynhyrchu, trwy ystyried proses y grwp cyfan fel damcaniaeth ymchwyl-fel-ymarfer.

Arddangos gallu i adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r broses baratoi, ymarfer a chyflwyno mewn traethawd ysgrifenedig.

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o ddeg wythnos. Fe fydd ffrwyth y broses a baratoi ac ymarfer yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y semester fel rhan o wyl o waith theatr a chyfryngau yn yr Adran. Fe fydd y myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim cynhyrchu sefydlog dan oruchwyliaeth cyfarwyddwr staff profiadol neu arbenigwr gwadd tuag at nod a bennir gan y cyfarwyddwr. Fel aelod o dim cynhyrchu, disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a rol neilltuol a fydd yn cyfrannu'n bwysig at ddatblygiad a chyflwyniad y cynnyrch gorffenedig. Fe fydd natur y roliau hyn yn fater a drafodir rhwng y myfyrwyr a'r cyfarwyddwr ar dechrau'r prosiect, ac fe fydd cyfarwyddyd pendant yn cael ei roi i bob myfyriwr yn unigol ar y pwynt hwnnw ynglyn a natur eu rol a'r hyn a ddisgwylir ohonynt wrt iddynt weithredu a chyflawni'r rol honno.

Content

Fe fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno fel cyfres o ymarferion tuag at y cynhyrchiad llawn, ac yn gofyn presenoldeb ac ymroddiad arbennig gan y myfyrwyr tuag at gwblhau'r cynhyrchiad yn llwyddiannus. Fe fydd y cynhyrchiad ei hun yn gofyn rwy 16 awr yr wythnos o waith ar ran pob myfyriwr, gan gynnwys gwaith paratoi ac ymchwil cefndirol.

Fe fydd yna hefyd gyfres o seminarau wythnosol yn ystod y cyfnod ymarfer a pharatoi a fydd (1) yn trafod datblygiad yn ymateb y myfyrwyr i'r cynhyrchiad fel proses o ymarfer-fel-ymchwil; a (2) yn eu cynorthwyo i ddatblygu traethawd ar sail yr ymateb hwnnw.

Fe fydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y modiwl hwn fel actorion, aelodau o'r tim cynhyrchu, dylunion ne rheoli lwyfan, neu fel cynorthwywyr i'r cyfarwyddwr staff (neu wadd). Fe fydd y cyfleon gwaith hyn yn cael eu cytuno trwy gyfrwng cyfweliad ffurfiol gyda Chyd-gysylltydd y modiwl a'r Rheolwr Cynhyrchu Uwch tua diwedd y tymor blaenorol (ar ol cwblhau'r broses gyn-gofrestru) fel rhan o'r broses AGAPh.

Arweinir y cynhyrchiad gan gyfarwyddwr/aig brofiadol a fydd yn creu methodoleg ymarfer priodol ar gyfer y prosiect. Yn ystod yr ymarferion, fe fydd y myfyrwyr yn cael profiad o gemau theatr, ymarferion byrfyfyrio, ymarferion eraill a gweithdai, a fydd wedi'u cynllunio'n benodol er mwyn hybu dealltwriaeth a gallu'r myfyrwyr i gyflawni anghenion eu swyddogaeth o fewn y cynhyrchiad.

Fe fydd y prosiectau hyn yn un o leoliadau perfformio'r Adran neu mewn lleoliad safle penodol priodol. Fe fydd cyfanswm o bum perfformiad o'r cynhyrchiad a fydd yn rhoi cyfle i rieni, ffrindiau ac aelodau'r cyhoedd wylio gwaith ymarferol yr Adran.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl.
Communication Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Improving own Learning and Performance Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu.
Information Technology Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.
Personal Development and Career planning Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol.
Problem solving Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol.
Research skills Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.
Subject Specific Skills Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth or theatr fel arf gyfathrebu.
Team work Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.

Notes

This module is at CQFW Level 6