Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
BBM1920
Module Title
Nwyddau Cyhoeddus
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Distance Learning
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Tasgau Rhyngweithiol  25%
Semester Assessment Astudiaeth Achos  (2,500 o eiriau)  40%
Semester Assessment Adolygiad Llenyddiaeth  (2,500 o eiriau)  35%
Supplementary Assessment Fel sy'n berthnasol  Gall myfyriwr ail-sefyll unrhyw elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl.   100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Esbonio yr heriau presennol ac yn y dyfodol o ran darparu nwyddau cyhoeddus

2. Asesu nwyddau cyhoeddus pwysig, eu rhyngweithiadau a'r dulliau o'u gwerthfawrogi

3. Gwerthuso a chymharu opsiynau ar gyfer llywodraethu nwyddau cyhoeddus

4. Asesu'r dyfodol ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd y modiwl yn dysgu myfyrwyr beth yw nwyddau cyhoeddus, sut y gellir eu gwerthfawrogi a'u mesur, sut maen nhw'n rhyngweithio a'r opsiynau ar gyfer eu rheoli. Bydd yn edrych ar ddyfodol yr agenda nwyddau cyhoeddus yng nghyd-destun newid byd-eang.

Content

• Beth yw nwyddau cyhoeddus?

• Pridd a Dŵr fel nwyddau cyhoeddus

• Awyr iach fel nwydd cyhoeddus

• Bioamrywiaeth fel nwydd cyhoeddus

• Diwylliant fel nwydd cyhoeddus

• Iechyd fel nwydd cyhoeddus

• Perpectif systemau ar nwyddau cyhoeddus

• Gwerthfawrogi nwyddau cyhoeddus

• Llywodraethu darpariaeth nwyddau cyhoeddus

• Dyfodol nwyddau cyhoeddus

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data yn eu haseiniadau.
Communication Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu allbynnau ymchwil cymhleth i'w cyfoedion neu gydlynydd y modiwl yn y tasgau rhyngweithiol a hefyd trwy aseiniadau eraill.
Improving own Learning and Performance Rhoddir adborth manwl ar aseiniadau, gan ddarparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr - yn enwedig gyda'r aseiniad ffurfiannol, a gwblhawyd cyn unrhyw aseiniadau crynodol.
Information Technology Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr i systemau a thechnolegau cyflenwi i'w helpu i ddarparu'r wybodaeth/cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bio-seiliedig.
Problem solving Defnyddir tasgau rhyngweithiol i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Yn ogystal, bydd yr astudiaeth achos yn ei wneud yn ofynnol i fyfyrwyr fynd i'r afael â phroblem benodol.
Research skills Trwy'r modiwl bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudiaeth dan gyfarwyddyd, gan wella eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth ac hefyd i gasgu gwybodaeth ar gyfer eu aseiniadau. Yn ogystal â derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth.
Subject Specific Skills Gwerthuso nwyddau cyhoeddus. Nodi gwahanol fathau o nwyddau cyhoeddus a rhyngweithiad rhyngddynt; profiad ar sut i asesu a gweithredu cysyniadau / syniadau newydd
Team work Bydd tasgau rhyngweithiol yn ei wneud yn ofynnol i fyfyrwyr drafod ymysg ei gilydd a datblygu consensws.

Notes

This module is at CQFW Level 7