Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CB17120
Teitl y Modiwl
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Cyflwyniad Grŵp  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ysgrifenedig Unigol  2500 Words  60%
Asesiad Ailsefyll Arholiad Ar-lein Aml-ddewis  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grŵp  (15 munud)  20%
Asesiad Semester Aseiniad Ysgrifenedig Unigol  2500 Words  60%
Asesiad Semester Arholiad Ar-lein Aml-ddewis  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod arferion marchnata a'u rôl mewn sefydliadau.

2. Disgrifiwch natur rhyngddisgyblaethol o farchnata fel astudiaeth academaidd o ymarfer

3. Nodi a thrafod beirniadaeth cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol cyffredin sy'n cael eu cyfeirio yn aml at y ddisgyblaeth farchnata

4. Esbonio modelau dadansoddol o'r broses o brynu defnyddwyr ac asesu eu goblygiadau ar gyfer datrysiadau i broblemau marchnata B2C

5. Esbonio modelau dadansoddol o'r broses o brynu busnes ac asesu eu goblygiadau ar gyfer atebion i broblemau marchnata B2B

6. Trafod problemau marchnata gan gymhwyso egwyddorion segmentiad y farchnad, targedu a lleoli

7. Nodi egwyddorion sylfaenol '4P' ac o'u hintegreiddio mewn 'cymysgedd marchnata' sy'n penderfynu ar safle cystadleuol y cynnyrch

8. Asesu cyfyngiadau egwyddorion marchnata syml a nodi materion heriol eraill sy'n rhaid rhoi sylw iddynt gan academyddion ac ymarferwyr marchnata. Dadansoddi’r cymwyseddau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheolaeth effeithiol a deall cyfraniad meddylwyr rheoli allweddol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth o hanfodion marchnata a ffurfiau cyfoes o farchnata, gan gynnwys; cymysgedd marchnata, segmentu, brandio, ymddygiad defnyddwyr, marchnata digidol, rheoli cadwyn gyflenwi a chyfathrebu marchnata.
Mae'r modiwl hefyd yn ceisio datblygu dealltwriaeth o hanes a natur marchnata fel disgyblaeth busnes craidd a phwnc academaidd, ac o sut y gall gwybodaeth o farchnata gael ei gymhwyso i ffenomena a phroblemau’r byd go iawn mewn busnes a chymdeithas.

Cynnwys

Hanfodion marchnata

• Egwyddorion Marchnata a Chymdeithas
• Ymddygiad Defnyddwyr o ran Prynu
• Ymchwil Marchnata a Mewnwelediad o Gwsmeriaid

Egwyddorion Rheolaeth Marchnata

• Yr Amgylchedd Marchnata
• Strategaeth Marchnata
• Segmentu Marchnad a Lleoli
• Datblygu'r Farchnad Rhyngwladol

Y Gymysgedd Marchnata

• Arloesi a Chynnig Datblygu Newydd
• Penderfyniadau ar Brisio
• Cyflwyniad i Gyfathrebu Marchnata
• Rheoli'r Gymysgedd Cyfathrebu
• Sianeli Marchnata a Manwerthu

Egwyddorion Marchnata Perthynol

• Penderfyniadau Brandio
• Rheoli Perthynas a Phrofiadau Cwsmeriaid
• Marchnata Busnes-i-Fusnes
• Marchnata Nid-er-Elw

Beirniadaeth a Newid mewn Ymarferion Marchnata

• Marchnata Digidol a’r Cyfryngau Cymdeithasol
• Marchnata, Cynaliadwyedd, a Moeseg
• Safbwyntiau Beirniadol ac Ôl-Fodern mewn Marchnata

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygu sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys sgiliau trafod a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am farchnata.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella eu cyfleoedd o ran gyrfa. Byddant hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd trefnu a rheoli ffynonellau gwybodaeth.
Datrys Problemau Adnabod problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Datblygu dulliau meddwl yn greadigol i ddatrys problemau. Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posib. Llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp, yn cyfrannu'n effeithiol ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a chyflwyniad grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dyfeisio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu realistig a monitro perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser.
Rhifedd Dadansoddi adroddiadau cwmnïau a data rhifiadol arall
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd trefnu a rheoli ffynonellau o wybodaeth a chadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf mewn marchnata
Sgiliau ymchwil Cynnal ymchwil i syniadau cyfredol mewn meysydd marchnata. Adnabod deunyddiau o ffynhonellau perthnasol ac o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer aseiniadau.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin. Cyflwyno gwybodaeth a chyflwyno data. Defnyddio e-bost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4