Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
VS10520
Module Title
Systemau ymborthol, endocrinaidd a throethgenhedlol (blwyddyn 1)
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Gwyddor Filfeddygol - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill
Co-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Gwyddor Filfeddygol - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill
Exclusive (Any Acad Year)
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment .5 Hours   Arholiad a ysgrifennir yn y dosbarth  .5 Awr  20%
Semester Assessment Arholiad llafar  10 Munud  20%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  60%
Supplementary Assessment 2 Hours   Arholiad ail-eistedd  2 Awr  60%
Supplementary Assessment Arholiad llafar  10 Munud  20%
Supplementary Assessment .5 Hours   Arholiad  Arholiad a ysgrifennir yn lle arholiad a ysgrifennir yn y dosbarth .5 Awr  20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Trafod y rhan y mae cyfansoddion allweddol y systemau troethgenhedlol gwrywaidd a benywaidd (arennol, troethol ac atgenhedlol) yn eu chwarae yng ngwrywod a benywod y rhywogaethau milfeddygol

Brasluniau prif nodweddion y cylchred oestrws, ffrwythloni a beichiogrwydd, gan gyfeirio at yr hormonau sy'n rheoli'r prosesau.

O dan amgylchiadau arholiad, disgrifio adeiledd y cyfansoddion allweddol yn y system ymborthol, a sut maent yn gweithredu.

Trafod sut mae metaboledd sylfaenol gwahanol rywogaethau yn adlewyrchu'r metabolynnau maent yn eu hamsugno sydd, yn eu tro, yn adlewyrchu adeiledd a swyddogaeth eu llwybr ymborthol, gan gymharu epleswyr blaen-berfedd ac ôl-berfedd â chigysyddion a hollysyddion.

Rhoi gwybodaeth am ffisioleg systemau cyrff a astudiwyd ar waith er mwyn dehongli profion diagnostig am glefydau cyfffredin e.e. glwcos y gwaed a diabetes mellitus.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg gyffredinol ar adeiledd normal y systemau treulio, troethgenhedlol ac endocrinaidd a sut maent yn gweithredu. Bydd hwn yn fan cychwyn y canghennau "Ymborthol", Endocrinaidd" a "Throethgenhedlol" a fydd yn cael eu dysgu drwy gydol y cwrs BVSc.

Content

Yn y cyflwyniad i'r gangen 'Ymborthol', bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gyffredin yn adeiledd y llwybr ymborth, a sut mae'n gweithredu, ond bydd hefyd yn pwysleisio'r gwahaniaethau lu sy'n bwysig o safbwynt gofalu am anifeiliaid a chynhyrchu anifeiliaid. Ar y cychwyn bydd y modiwl yn astudio'r dannedd, cnoi a llyncu, gan symud ymlaen drwy'r llwybr, yn disgrifio'r organau allweddol a'u ffisioleg. Mae anatomeg yr abdomen hefyd yn cael ei thrafod, gan ganolbwyntio ar leoliadau'r organau yn yr abdomen, a mur yr abdomen, gan gynnwys y llwybrau i'w cyrraedd wrth gynnal llawdriniaeth. Ar ôl i'r anifeiliaid fwyta, treulio ac amsugno deunydd, mae hi'n bwysig deall sut y defnyddir y metabolynnau i gynnal prosesau corfforol. Bydd y modiwl hwn yn amlinellu'r llwybrau metabolaidd pwysicaf, gan ganolbwyntio bob amser ar sut maent yn cael eu rheoli i fodloni anghenion y corff. Bydd cynnwys y gangen "Endocrinaidd" yn yr adran hon yn canolbwyntio ar reoli lefelau glwcos yn y gwaed a dysgu sut i gynnal a dadansoddi prawf goddefiad glwcos. Yn olaf, rhoddir ystyriaeth i'r prosesau eplesu mewn llysysyddion sy'n eplesu yn y blaen-berfedd a'r ôl-berfedd.

Yn y cyflwyniad i'r gangen "Droethgenhedlol" bydd y myfyrwyr yn dysgu'r prif organau, y meinweoedd a'r celloedd sydd i'w cael yn llwybrau troethol ac atgenhedlol, a sut maent yn gweithredu. Bydd y modiwl yn amlinellu'r prif newidiadau yn yr wygell (öosyt) a'r sbermatasoa yn ystod y ffrwythloni, y prosesau sy'n digwydd ar ôl ffrwythloni, gan gynnwys adeiledd y brych a sut mae'n gweithredu, ac yn trafod y newidiadau yn ystod mamolaeth a'r newidiadau i'r ffetws sy'n digwydd ar ddiwedd y beichiogrwydd sy'n arwain at eni. Yn olaf, ystyrir y dylanwadau amgylcheddol ar atgenhedlu er mwyn helpu i ddeall atgenhedlu tymhorol. Bydd cynnwys y gangen endocrinaidd yn yr adran hon yn canolbwyntio ar secretu hormonau a sut maent yn gweithredu yng nghyswllt atgenhedlu. Mae'r system arennol a throethol yn gysylltiedig yn agos â'r system atgenhedlu. Mae'r anatomeg a'r ffisioleg yn cael eu cyflwyno tua diwedd Blwyddyn 1 ac yn cael eu cysylltu â'r system gardioresbiradol o safbwynt y rhan allweddol y mae'r system honno'n ei chwarae wrth reoli cyfaint y gwaed a homeostasis electrolytau.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon.
Co-ordinating with others Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Creative Problem Solving Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol, y gwaith cwrs a'r arholiadau yn golygu datrys problemau.
Critical and analytical thinking Bydd yr arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad.
Digital capability Nid yw'n elfen bwysig o'r modiwl hwn
Professional communication Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad, lle y'u hasesir. Bydd adborth ar yr arholiadau ar gael.
Real world sense Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Reflection Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Subject Specific Skills Yn ystod y modiwl, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol, lleoliadau anatomegol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu.

Notes

This module is at CQFW Level 4