Module Information

Cod y Modiwl
AP20420
Teitl y Modiwl
CYMRU A'R PERFFORMIADOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
AR10120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1. Sylwebaeth Ysgrifenedig (1,500 o eiriau)  25%
Asesiad Semester 2. Cyflwyniad Grwp  35%
Asesiad Semester 3. Sylwebaeth Lafar Berfformiadol (cyfwerth a 2,000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. 

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

1. arddangos ymwybyddiaeth o ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig
2. arddangos dealltwriaeth o rol a photensial y perfformiadol o fewn y diwylliant Cymreig
3. cymhwyso'r termau dadansoddiadol a gyflwynwyd yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol
4. arddangos dealltwriaeth aeddfed o'r berthynas rhwng digwyddiadau diwylliannol a'u cyd-destun cymdeithasol

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd:

  1. Y Llwyfan Cenedlaethol: Naratifau Perfformiadol yn Hanesyddiaeth Cymru
  2. Delweddu'r Genedl: Hanes a Myth
  3. Y Perfformiadol Llafar
  4. Gwlad y Gan?
  5. Y Corff Cymreig: Diwylliant Torfol a Thraddodiadol
  6. Y Corff Cymreig: Dawns a Theatr Gorfforol Gyfoes
  7. Yr Aelwyd: Pensaerniaeth a Chymundod
  8. Yr Aelwyd: Coginio a Mytholeg y Teulu
  9. Adnewyddu Cymundod: Technoleg
  10. Perfformio Hunaniaeth: Twristiaeth a Threftadaeth
Trefn Arfaethedig y Seminarau:

  1. Trafodaeth o syniadau parthed y cyflwyniad grwp (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
  2. Trafodaeth o syniadau parthed y cyflwyniad grwp (ii): technegau cyflwyno'r cyflwyniad
  3. Trafodaeth o syniadau parthed y sylwebaeth lafar unigol (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
  4. Trafodaeth o syniadau parthed y sylwebaeth lafar unigol (ii): adfyfyriad ar y profiad o baratoi'r cyflwyniad grwp
  5. Trafodaeth o syniadau parthed y sylwebaeth lafar unigol (iii): technegau cyflwyno'r cyflwyniad

Nod

Fe fydd y modiwl hwn yn elfen bwysig yn natblygiad academaidd y cynllun Astudiaethau Perfformio, gan y bydd yn cyflwyno nifer o faterion allweddol er mwyn gwerthfawrogi nod a chyrhaeddiad gwaith perfformiadol arbrofol ac amgen. Un o elfennau amlycaf y modiwl fydd ystyriaeth o gyd-destun diwylliannol perfformiadau, a rhoddir sylw helaeth i wahanol agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth yng Nghymru er mwyn cyflwyno'r ystyriaeth hon. Gobeithir y bydd y hyn yn cyfoethogi profiad ymarferol y myfyrwyr mewn modiwlau megis AP20320 Dyfeisio Perfformio ac yn gosod sail ar gyfer yr astudiaeth fanwl o waith y cwmni perfformio AP30520 Brith Gof a gyflwynir yn ystod yr ail semester.

Disgrifiad cryno

Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn fydd sylwi ar nifer o wahanol agweddau ar ddiwylliant cenedlaethol, traddodiadol a chyfoes yng Nghymru, gan ystyried sut y creir ymdeimlad o hunaniaeth trwy gyfrwng y pethau hynny. Un o ddadleuon amlycaf y modiwl fydd fod i bob un o'r agweddau diwylliannol y dewiswyd eu hastudio elfen berfformiadol gref a digamsyniol; hynny yw, eu bod yn creu a chyflwyno ystyr trwy gyfrwng mathau arbennig o weithredu ymarferol neu eu bod yn creu perthynas neilltuol rhwng grwp o 'berfformwyr' a 'chynulleidfa' o fath arbennig.

Telir sylw arbennig yn y darlithoedd i nifer o ddamcaniaethau gwahanol ynglyn a hunaniaeth a chenedligrwydd yng Nghymru a thu hwnt, ac asesir fel ag y maent wedi'u seilio ar fathau arbennig o naratif hanesyddol a mytholegol ac ar wahanol fathau o weithredu defodol a chymundodol. Wedi hynny, ymhelaethir ynglyn a rhai o'r ffurfiau diwylliannol a chelfyddydol y cyfrifir eu cyfraniad i'r syniad o berfformio diwylliannol yn hollbwysig, gan gynnwys siarad a thraddodiadau llafar, celfyddyd weledol, dawns gyfoes, canu a cherddoriaeth, a diwylliant gwerin.

Fe rydd y seminarau gyfle i'r myfyrwyr drafod syniadau parthed y cyflwyniad grwp a'r sylwebaeth lafar unigol a fydd yn benllanw gwaith y modiwl. Wrth baratoi'r gwaith hwn, disgwylir i'r myfyrwyr adfyfyrio ynglyn a'r deunydd a drafodwyd ar y modiwl ac i ddefnyddio technegau cyflwyno sy'n briodol i'r pwnc neu'r deunydd a drafodir ganddynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd pob elfen o'r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng y myfyriwr unigol a'i gyd-fyfyrwyr ac â'r staff fydd yn cyflwyno'r deunydd. Bydd aseiniadau¿r modiwl hefyd yn rhoi cryn bwys ar gyfathrebu effeithiol, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn ynglyn ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Datrys Problemau Er nad asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl, fe fydd y modiwl hwn yn datblygu gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau wrth iddynt ddyfeisio ffyrdd o sylwebu ar rai o bynciau'r modiwl mewn ffordd ymarferol neu safle-benodol
Gwaith Tim Fe rydd y cyflwyniad grwp gyfle i'r myfyrwyr feithrin a datblygu'r medrau hynny sy'n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er y bydd y gwahanol elfennau o'r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain, nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl.
Sgiliau ymchwil Fe fydd ymchwilio fel unigolion ac fel rhan o dîm cydweithredol yn rhan bwysig o'r modiwl, yn enwedig wrth i'r myfyrwyr baratoi eu haseiniadau ymarferol (y sylwebaeth lafar a'r cyflwyniad grwp).
Technoleg Gwybodaeth Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o'r modiwl, eithr disgwylir bod gan y myfyrwyr rywfaint o allu wrth brosesu geiriau erbyn y cyfnod hwn yn eu gyrfa golegol, ynghyd â'r gallu i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5