Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith 1 x 2 awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x Traethawd Ysgrifenedig 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 x Perfformiad o Etude 20 munud | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig: rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: gosodir fideo arall ar gyfer rheini syn ail-sefyll Perfformiad o Etude: rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd, ond fel unigolyn. Fe fydd rhaid ir perfformiad parhau 7 munud, mewn man arbennig, rhoddedig yn Aberystwyth gyda thema/strwythur rhoddedig sydd yn gysylltiedig a gwaith Brith Gof. |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. arddangos dealltwriaeth o'r dulliau gweithredu a'r gwahanol ymarferion dyfeisio/cyflwyno sy'n gysylliedig a gwaith Brith Gof
2. cydweithio'n greadigol a deallus a'u cydfyfywyr i baratoi Etude 20 munud o hyd
3. sylwebu'n gryno a deallus ar berfformiad mewn traethawd ysgrifenedig
4. defnyddio sgiliau perfformiadol i esbonio deunydd cysyniadol
5. arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol a'u heffaith ar ffurf a ffwythiant perfformiad
Cynnwys
1. Dechreuadau a Chefndir: Theatr Rat, Theatr Labordy Caerdydd, Hyfforddiant (Siapan, Gwlad Pwyl, Denmarc), pentrefi Cymreig Gorllewin Cymru
2. Aberystwyth 1: Yr Adran Ddrama a'r Mabinogion: Branwen, Rhiannon, Manawydan, Blodeuwedd
3. Aberystwyth 2: Bwyty Bananas, Dros Ben Llestri, Gernika!, Gwaelodion (Gorki)
4. Theatr y Gormesiedig: Ymfudwyr, 8961, In Patagonia
5. Cysylltiadau Ewropeaidd, cyd-destunau a gwaith stryd: Iddo Fe, Luna! Luna!, Pedole Arian
6. Mannau Arbennig: Ann Griffiths, Boris, Oherwydd y Mae'r Amser yn Agos, Gwyl y Beibl
7. Trychinebau Rhyfel: Rhannau 1-9 (1987-1989)
8. Gweithiau graddfa eang: Gododdin, Haearn, Pax, Los Angeles, Arturius Rex, Camlann
9. Diddymiad: EXX1, Tri Bywyd, Prydain, From Memory, The First Five Miles, Dead Men's Shoes, The Man Who Ate His Boots
10. Y Rhai Olaf: Y Pen Bas, Y Pen Dwfn, Once Upon a Time in the West, Lla'th, Llais Cynan, Draw, Draw yn...
Trefn Arfaethedig y Seminarau:
1. Trafodaeth o syniadau parthed yr Etude ymarferol (i): adfyfyriad ar y deunydd a drafodwyd yn ystod y modiwl
2. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Etude ymarferol (ii): technegau cymhwyso a chymathu deunydd ymarferol
3. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Etude ymarferol (iii): technegau ymarfer y cyflwyniad
4. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Etude ymarferol (iv): datblygu'r weledigaeth gychwynol
5. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Etude ymarferol (v): gweithio ar y manylion
6. Trafodaeth o syniadau parthed parthed yr Etude ymarferol (vi): adfyfyrio'n
Nod
Honnir mai Brith Gof yw un o'r prif gwmniau theatr yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf: rydym yn awyddus i sicrhau bod y myfyrwyr yn medru gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad Brith Gof i'r theatr Gymreig, yn ogystal a'u cyfraniad i feirniadaeth a theori perfformio yn gyffredinol. Mae gan y staff sydd yn cynnal y modiwl hwn ddiddordeb a phroffil ymchwil eisoes mewn perthynas a Brith Gof, a gobeithir y bydd llyfr ar Brith Gof yn deillio o'r gwaith a wneir ganddynt wrth baratoi a chyflwyno'r modiwl hwn o fewn y dair mlynedd nesaf. Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn ehangu a datblygu'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn modiwlau blaenorol, yn enwedig DD23420 a DD24020.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw i gyflwyno hanes a dadansoddiad manwl o waith Brith Gof, yn cynnwys hanes blaenorol a safbwyntiau beirniadol o'r gwaith yn ystod ei ddatblygiad a'i ddiddymiad. Cyflwynir nifer o gyd-destunau sydd wedi cael eu datblygu a'u prosesu gan Brith Gof i ymchwilio'r goblygiadau cymdeithasol, diwylliannol ag amgylchfydol yn y cyd-destunau hynny a'u heffaith ar natur, ffurf, ffwythiant a gosodiad eu gwaith
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae¿n amlwg y bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol trwy gyfrwng dulliau ac ymarferion newydd yn datblygu medrau cyfathrebu¿r myfyrwyr, a hynny ar lafar yn y sesiynau dysgu, yn ysgrifenedig yn y traethawd ac yn gorfforol ymarferol yn yr étude. |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'u dealltwriaeth o gynyrchiadau ac ymarferion dyfeisio Brith Gof er mwyn paratoi eu gwaith academaidd ac ymarferol eu hunain. Er nad asesir y gallu i ddatrys problemau yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl, fe fydd y medrau hyn yn allweddol bwysig i lwyddiant y myfywyr o safbwynt deallusol a chreadigol. |
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe fydd yr étude ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr. At hynny, fe sylwir o'r rhestr ddarlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er i aseiniadau'r modiwl gael eu llunio er mwyn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu hymateb o'r naill asesiad i'r llall, nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth ysgrifennu'r traethawd, ac wrth baratoi ar gyfer y darlithoedd a'r étude ymarferol |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl: er y croesewir defnydd o dechnegau technoleg gwybodaeth yn yr étude ymarferol, nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn. |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydAnderson, B (1991) Imagined Communities Verso Chwilio Primo Barry, P (1995) Beginning Theory M.U.P Chwilio Primo Birringer, J. H (2000) Performance on the Edge: Transformation of Culture Athlone Press Chwilio Primo Diamond, E (1996) Performance and Cultural Politics Routledge Chwilio Primo Gomez-Pena, Guillermo (2000) Dangerous Border Crossings Routledge Chwilio Primo Owen, R (2003) Ar Wasgar Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Owen, T.M Welsh Folk Customs Amgueddfa Genedlaethol Cymru Chwilio Primo Pearson, M & Shanks, M (2001) Theatre/Archaeology Routledge Chwilio Primo Savill, C (1994) A Critical Study of the History of the Welsh theatre Company Brith Gof Thesis M.Phil, CPC. Aberystwyth Chwilio Primo Testun Ychwanegol Atodol
Savill, C (1990) Dismantling the Wall Planet rhif 79, Chwefror/Mawrth Chwilio Primo Savill, C (1992) Women in Welsh Theatre: Saying Their Piece Planet rhif 91, Chwefror/Mawrth Chwilio Primo (1985) Brith Gof: A Welsh Theatre Company 1. 1981-85 Brith Gof Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6