Module Information

Cod y Modiwl
FT34130
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHU STIWDIO UWCH (SEMESTER 1)
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
TF34130
Rhagofynion
FT21520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 10 x 2 sesiwn dwy awr mewn stiwdio.
Eraill Ymweliad undydd (12 awr) a stiwdio weithredol, naillai BBC, Tinopolis neu Barcud. Cyfle i'r myfyrwyr i gyfarfod a staff broffesiynol mewn amgylchedd fydd yn cynnwys adrannau sy'n gysylltiedig a'r cyfrwng e.e. stiwdios/galeris/swyddfeydd cynhyrchu/stafelloedd bras a gwir olygu, colur a gwisgoedd yn ogystal a'r adran gynllunio.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad 1.  Portffolio o 3x500 gair triniaeth hunan feirniadol ar waith stiwdio, wedi ei seilio ar sesiynau 3-7.  30%
Asesiad Semester Asesiad 2.  Traethawd (2000 gair) yn ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyd destun cyfoes a hanesyddol cynhyrchu mewn stiwdio.  30%
Asesiad Semester Asesiad 3.  Arholiad stiwdio.  40%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i'r myfyrwyr  gyflwyno dadansoddiad fanwl o gynhyrchiad stiwdio (4,000 o eiriau). Bydd natur yr asesiad yn cael ei benderfynu wedi ymgynghoriad a Chydgysylltydd y Modiwl a'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos agwedd feirniadol i gynhyrchu mewn stiwdio aml gamera.

2. Arddangos gwybodaeth uwch o Gyfarwyddo, Cynhyrchu a Chyflwyno, Cynllunio Set, Rheoli'r Llawr, Gweithredu Camerau a Chymysgu Sain, Mise-en-Scene.

3. Ennyn gwybodaeth penodol o broses creadigol y stiwdio aml gamera.

4. Gweithio'n adeiladol fel rhan o dim cynhyrchu.

5. Gallu gweithio'n effeithiol mewn modd hunan ddisgybledig fel unigolyn o fewn grwp.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yma'n trwytho'r myfyrwyr a mwy o wybodaeth ymarferol ac academaidd, sy'n gysylltiedig a'r broses geardigol o ddarparu teledu aml gamera (wedi iddynt cwblhau FT21520). Bydd yna bwyslais briodol ar waith tim, gallu technegol, a chreadigrwydd o fewn cyfyngderau stiwdio syml. Bydd sylw arbennig ar allu'r myfyrwyr i gyfathrebu a threfnu dwy ddisgyblaeth werthfawr o fewn gofynion y canlyniadau dysgu.

Cynnwys

Bydd y 10 gweithdy stiwdio yn sesiynau dysgu (Bydd y sesiwn arholiad yn un ychwanegol ac yn cael ei gynnal yng nghyfnod arholiadau'r Brifysgol). Bydd y 10 sesiwn yn cynnwys y canlynol:-

1. Ail gyfarwyddo gyda'r adnoddau stiwdio. Tiwtora personol yn dilyn profiadau y flwyddyn flaenorol fydd yn sicrhau esblygiad yn y broses o ddysgu. Darlith fer ar hanes cynhyrchu mewn stiwdio. Cyflwyniad i'r sgrin las.

2. Cyflwyniad i 'Amseru' a 'Autocue'. Cyflwyniad wedi ei pharatoi fydd yn cynnwys mewnbwn y myfyrwyr a recordio un eitem newyddion. Symbylu paratoadau ar gyfer y drydydd wythnos. Bydd pob grwp yn cael her arbennig a fydd yn cynnwys a) meddwl fel unigolyn gwreiddiol parthed gofynion prosiect yr wythnos i ddod. b) cyfarfod fel grwp i baratoi sgript ymarferol; bydd hyn yn gorfodi cyfaddawd a deall gofynion gweddill y tim. c) bydd rhaid cael sawl cyfarfod, sawl drafft, i sicrhau fod pob elfen o'r cynhyrchiad yn foddhaol i'r grwp ac i'r unigolion ac i anghenion y modiwl. Bydd y patrwm yma o baratoi yn cael ei ail adrodd bob wythnos fel paratoad i bob sesiwn stiwdio.

3+4. Dwy wythnos yn olynol a fydd yn canolbwyntio ar faterion cyfoes. Bydd y rhain yn cynnwys cyflwynodd a phump gwestai . Caiff sgiliau'r wythnosol blaenorol yn cael eu hogi. Bydd pob un myfyriwr yn cael profi pob agwedd o waith stiwdio.

5. Rhaglen chwaraeon fydd a chyflwynydd a phump gwestai. Pwysleisir y gwahanol genres, e.e. rhwng materion cyfoes a chwaraeon yr wythnos flaenorol. Bydd cynnwys rhythmau toriadau'r camerau a thechnoleg yn cael sylw arbennig.

6+7. Dwy wythnos yn olynol yn seiliedig ar ddwy sgript ddrama a fydd wedi eu creu gan y myfyrwyr - un yn gomedi a'r llall yn drasiedi. Wrth gastio, rhaid defnyddio dim llai na thri actor (gellir defnyddio myfyrwyr nad ydynt yn dilyn y modiwl).

8. Ymweliad a'r BBC, neu Tinopolis neu Barcud. Bydd y myfyrwyr yn cael eu tywys o amgylch stiwdio 'fyw' yng nghwmni staff broffesiynol; profiad a fydd yn rhoi blas o'r hyn sy'n bodoli yn y cyfrwng. Sail yr ymweliad yw realiti sefyllfa waith stiwdio, sy'n cael ei ddilyn gyda sesiwn o holi ac ateb. Yn ystod yr ymweliad bydd y myfyrwyr yn cael eu hatgoffa o'r angen am ddadansoddiad manwl o'i hargraffiadu. Bydd y ddadansoddiad yn rhan allweddol o'r 'Log' ysgrifenedig terfynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu sgiliau cyfathrebu da o fewn eu tim yn cael ei annog am ei fod yn hanfodol i lwyddiant wythnosol cynyrchiadau'r myfyrwyr.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Caiff pob myfyriwr, wrth gymryd y cyfrifoldeb o gynhyrchu yn eu tro, y cyfle i ddatblygu hunan hyder sylweddol. Byddant yn datgan eu sgiliau personol wrth gyfathrebu a threfnu'r cynhyrchiad. Bydd yr ymweliadau a'r amryw Stiwdios proffesiynol yn aml yn dylanwadu ar ddewis trywydd gyrfaol, a fe feithrinnir cysylltiadau gyrfaol real. Mae hefyd yn gyfle i drefnu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith.
Datrys Problemau Anogir pob myfyriwr i adnabod ac yna i ddatrys problemau logistaidd a fydd, doed a ddelo yn codi tra'n cynhyrchu rhaglen deledu.
Gwaith Tim Rhoddir pwyslais mawr ar ddysgu sut i ddefnyddio sgiliau a ddysgwyd ar y cwrs a'u defnyddio i gynhyrchu gwaith tim effeithiol ar y modiwl yma. Cynhelir sesiynau wythnosol ar ddechrau bob sesiwn rhwng y Tiwtor a aelodau'r tim er mwyn monitro ag annog gwaith tim effeithiol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw creu llwyth gwaith wythnosol cytbwys.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gweithio yn effeithiol i'w gallu personol o fewn eu tim yn cael ei anogi. Mae gweithio yn effeithiol i'w gallu personol gydag ystod o offer technegol yn hanfodol. Fe fydd y gallu i leisio barn o fewn tim yn cael ei ddatblygu.
Rhifedd Rhoddir pwyslais mawr ar amseru rhaglenni ac elfennau oddi fewn i raglen - a hyn i'r eiliad. Mae hwn yn broses anodd, ac fe anogir y myfyrwyr drwy gynorthwyo ac ysgogi yn ofalus ond yn fanwl. Rhoddir gyllideb i bob grwp ar gyfer eu cynhyrchiad terfynol, a chyfrifoldeb y cynhyrchydd yw ei reoli. Rheolir y gyllideb wythnosol yn ogystal gan y cynhyrchydd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn datblygu ac yn ehangu sgiliau technegol a ddysgwyd ar y cwrs sy'n rhagofynol sef FT21520 a fydd yn fwy dadansoddol a beirniadol, wrth arbenigo mewn gwaith camera a sain, gweithredu DVD a VT, Rheoli'r Llawr, Cyfarwyddo, P.A. a Llun Dorri. Er nad yw asesu perfformio yn rhan o'r cwrs, fe fydd y myfyrwyr yn cael blas ar yr agwedd hon er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth weithio'n effeithiol gyda pherfformwyr yn ystod cynhyrchiad.
Sgiliau ymchwil Daw pob rhaglen a'r angen i ddeall cynulleidfa posib ac felly bydd angen i'r myfyrwyr ymchwilio'r gynulleidfa honno cyn ysgrifennu agriptiau a.y.y.b. Anogir y myfyrwyr i ddadansoddi, adlewyrchu a phwyso a mesur defnyddioldeb ystod o ffynonellau, i sylweddoli cysylltiadau a derbyn syniadaeth newydd.
Technoleg Gwybodaeth Caiff y myfyrwyr gyfleoedd i ddatblygu eu defnydd o'u sgiliau ymchwilio'r we. Mae gwefan Facebook ar gael sy'n hysbysebu'n wythnosol am gantorion, actorion a chyflwynwyr.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Bennet, James & James Brown (eds) (2008) Film and TV After DVD Routledge Chwilio Primo Booker, Christopher (2004) The Seven Basic Plots Continuum Chwilio Primo Fairweather, Rob (2001) Basic Studio Production Focal Press Chwilio Primo Higgin, A.P. (ed.) (1992) Talking About TV BFI Chwilio Primo Hobson, Dorothy (2003) Soap Opera Blackwell Chwilio Primo Llwyd, Alan (1997) Y Grefft o Greu Barddas Chwilio Primo McKee, Robert (1998) Story Methuen Chwilio Primo Morgan, Mihangel (1998) Darllen Ffilmiau, Sut i Ddechrau Astudio Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth Chwilio Primo Musgrove, Jan (1993) Make Up/ Hair/ Costume for TV Focal Press Chwilio Primo Palmer, Gareth (1993) Discipline and Liberty Manchester University Press Chwilio Primo Philo, Greg (1995) The Influences of T.V. Routledge Chwilio Primo Richards, Ron (1992) A Director's Method for Film and TV Focal Press Chwilio Primo Tolson, Andrew (2001) T.V. Talk Shows London: LEA Chwilio Primo Williams, Euryn Ogwen (1998) Byw Ynghanol Chwyldro Llys yr Eisteddfod Genedlaethol Chwilio Primo Williams, Kevin (1997) Shadows and Substance: The Development of a Media Policy for Wales Gomer Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6