Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 2 x darlith 1 awr bob wythnos |
Darlithoedd | 1 x darlith 2 awr bob wythnos |
Sesiwn Ymarferol | 5 x sesiwn ymarferol 3 awr yn ystod y semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Llyfr adroddiad ymarferol | 50% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad | 50% |
Asesiad Ailsefyll | 1.5 Awr Asesiad Atodol Bydd angen i ymgeiswyr wneud gwaith sy'n cyfateb i'r elfen(nau) a arweiniodd at y methiant, h.y. naill ai'r asesiad neu'r arholiad neu'r ddau. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth o gysyniadau ecolegol a sut mae organebau yn addasu i'w hamgylchedd.
Nodi egwyddorion sylfaenol systemau dosbarthu ar gyfer enwi organebau a chynefinoedd, a sut i'w defnyddio'n ymarferol.
Nodi datblygiad a nodweddion cynefinoedd
Dangos dealltwriaeth o dechnegau ecolegol ymarferol.
Cynhyrchu adroddiadau gwyddonol o ymweliadau maes.
Disgrifiad cryno
Trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau a'r maes, bydd y modiwl yma yn cyflwyno'r prosesau a'r egwyddorion biolegol ac ecolegol sylfaenol sydd ar waith mewn amrywiaeth o gynefinoedd ym Mhrydain. Amlinellir yr egwyddorion gwyddonol sylfaenol sy'n sail i systemau biolegol a bydd sgiliau sylfaenol dosbarthu organebau a chynefinoedd yn cael eu cyflwyno. Drwy ddefnyddio technegau maes a labordy mewn sesiynau ymarferol byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau niche, cynefinoedd, poblogaethau a chymunedau a fydd yn sail i'ch astudiaeth o amrywiaeth o gynefinoedd pwysig Prydain. Telir sylw arbennig i'r rhan y mae pobl yn ei chwarae yn natblygiad a rheolaeth y cynefinoedd allweddol hyn.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Rhifedd | Bydd ymarferion yn y maes yn cynnwys casglu data. Bydd data yn cael ei fapio, ei ddadansoddi a'i ddehongli yn rhan o'r adroddiadau ymarferol a asesir. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen ysgrifennu'r adroddiadau maes ar ffurf adroddiadau gwyddonol safonol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd canlyniadau rhai ymarferion yn y maes yn cael eu casglu a'u dadansoddi gan ddefnyddio taenlenni. Bydd gwybodaeth atodol ar gyfer y modiwl yn cael ei darparu trwy gyfrwng y rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4