Module Information

Module Identifier
AD11320
Module Title
PLANT IFAINC YN DYSGU
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 10 hours
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1 ymarferiad llyfryddiaethol 400 gair  10%
Semester Assessment 1 traethawd 1600 gair  1 essay of 1600 words based upon pre-school visit. If student does not have a CRB check for any reason, an essay of 1600 critiquing effective practice and designing a lesson to illustrate effective practice.  40%
Semester Exam 2 Hours   1 arholiad ysgrifenedig 2 awr, dau gwestiwn  50%
Supplementary Assessment Bob aseiniad a fethir  All failed elements of the assessments must be retaken if the students average mark falls below the required pass mark of 40 %   50%
Supplementary Exam 2 Hours   Bob arholiad a fethir  All failed elements of the assessments must be retaken if the students average mark falls below the required pass mark of 40 %   50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithlon o’r ffordd y mae plant ifainc yn dysgu a’r dulliau priodol o’u haddysgu.

2. Gwerthuso’n feirniadol holl agweddau’r dulliau dysgu ac addysgu sy’n addas i blant ifainc.

3. Llunio dadleuon cydlynol wrth drafod materion yn ymwneud â phlant ifainc yn dysgu.

4. Dangos y gallant ddefnyddio deunydd o ffynonellau perthnasol.

Brief description

Mae’r rhan gyntaf yn gysylltiedig â’r lleoliad ‘cyn-ysgol’ (plentyn 3-5 oed) gan drafod y gwahanol fathau o ddarpariaeth, natur yr amgylchedd dysgu cyn-ysgol, pwysigrwydd chwarae a swyddogaeth asiantaethau cynorthwyol. Bydd cyfran o seminarau’r modiwl yn canolbwyntio ar y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.
Mae’r ail ran yn gysylltiedig â’r lleoliad ‘Babanod’ (plentyn 5-7 oed) ac yn trafod rhan berthnasol y Cwricwlwm Cenedlaethol, natur yr amgylchedd dysgu a pherthnasedd y ddogfen “Code of Practice, Identification and Assessment of Special Needs” yn y cyd-destun hwn.
Ar ben y darlithoedd, bydd pob myfyriwr yn gwneud ymweliad (h.y. dau hanner diwrnod) â chylch chwarae neu feithrinfa leol i wylio plant yn chwarae. Mae’r ymweliad ymarferol hwn yn elfen bwysig a fydd yn darlunio ac egluro nifer o agweddau’r cwrs.

Content

Seilir darlithoedd ar y pynciau isod:
Darlith 1: Gorolwg hanesyddol – datblygiad addysg cyn-ysgol – deddfwriaeth berthnasol a chwaraewyr allweddol. Fideo – “An Invitation to Play Wales PPA Cymru.
Darlith 2: Gwahanol fathau o ddarpariaeth cyn-ysgol, gwirfoddol, statudol a phreifat. Gwahaniaethau arddull, pwyslais a threfn, rhan y rhieni a darpariaeth i anghenion arbennig.
Darlith 3: Y Canlyniadau a Ddymunir ac Amcanion Dysgu’r Blynyddoedd Cynnar – y goblygiadau i Raglen y Blynyddoedd Cynnar.
Darlith 4: Trefn y sesiwn cyn-ysgol, gweithgaredd chwarae rhydd a chwarae i strwythur sy’n angenrheidiol ar gyfer gwahanol oed, cyfnodau, cefndir a phrofiad y plant, cymhareb a swyddogaeth oedolion, swyddogaeth y gymuned.
Darlith 5: Datblygiad cynnar llythrennedd– datblygiad ieithyddol a defnydd o iaith, llyfrau, cerddi a storïau, profiadau darllen ac ysgrifennu cynnar.
Darlith 6: Datblygiad dirnadaeth plentyn o’r byd – adnabod nodweddion yr amgylchedd lleol, gwahaniaethau rhwng y gorffennol a’r presennol, mynegi eu canfyddiadau trwy amrywiol ddulliau megis siarad, lluniau neu siartiau syml a chynllunio, gwneud a defnyddio deunyddiau a chydrannau.
Darlith 7: Cwricwlwm Babanod – gan gyfeirio at Feini Prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol. Perthnasedd y dull integredig i wella dysgu, datblygu agweddau, sgiliau a chysyniadau.
Darlith 8: Paratoi am yr ymweliad cyn-ysgol, arsylwi syml o blant yn chwarae – siarad a magu perthynas â phlant ifainc a chyfrannu at y sefyllfa chwarae.
Darlith 9: Sefydlu cysylltiadau ag asiantaethau cymorth e.e. NSPCC, Lles Plant, gwasanaethau cymdeithasol, seicolegydd plant, gweithio mewn partneriaeth fel a nodir gan Ddeddf Plant 1989 [Children Act].
Darlith 10: Canolbwyntio ar Cod Ymarfer, darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig corfforol, emosiynol a deallusol mewn lleoliadau cyn-ysgol, dosbarthiadau prif lif ac unedau/ysgolion arbennig. Archwiliad o adnoddau, trefn ystafell ddosbarth ac adrannau perthnasol y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Seilir y seminarau ar y canlynol:

Seminar 1: Dod i adnabod ein gilydd – dwyn i gof brofiadau cyn-ysgol.
Seminar 2: Chwarae
Seminar 3: Cyfnod Sylfaen yng Nghymru I
Seminar 4: Cyfnod Sylfaen yng Nghymru II
Seminar 5: Trefnu sesiwn cyn-ysgol
Seminar 6: Sgiliau Llythrennedd
Seminar 7: Hanes a Daearyddiaeth yng Ngwricwlwm y Babanod
Seminar 8: Ymweliadau cyn-ysgol
Seminar 9: Athrawon Babanod effeithiol
Seminar 10: Darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig.

Notes

This module is at CQFW Level 4