Module Information

Cod y Modiwl
DD30720
Teitl y Modiwl
THEATR CYMRU GYFOES
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith 1 x 2 awr yr wythnos
Seminarau / Tiwtorialau Seminar 1 x 1 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o?r asesiad rhaid ail-gyflwyno?r gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwyno?r holl elfennau a fethwyd. Os methir y Modiwl oherwydd methu?r elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhiad i?r myfyriwr sefyll arholiad llafar unigol yn ei lle. 
Asesiad Semester Cyfraniad i seminarau  15%
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp (20 munud)  35%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:

  1. arddangos gallu i gydweithio'n drylwyr, cyfrifol a chreadigol fel rhan o grwp
  2. cymhwyso'r wybodaeth a gyflwynir yn y darlithoedd yn ebrwydd wrth drafod gweithgarwch a chyflwr y theatr Gymraeg gyfoes
  3. arddangos gallu i ddadansoddi cynyrchiadau theatraidd a deunydd dramataidd cyfoes yn grefftus a phwrpasol yn ol eu gofynion theatraidd a'u cyd-destun cymdeithasol
  4. arddangos gallu a pharodrwydd i ymateb yn ddeallus ac ystyriol i fewnbwn eu cyd-fyfyrwyr

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl fydd ystyried cynnyrch a chyflwr y theatr gyfredol yng Nghymru.
Astudir gwaith nifer o ddramodwyr y gwelwyd eu gwaith ar lwyfannau Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dramodwyr na dderbyniodd eu cyfran o sylw beirniadol yn y gorffennol. Ystyrir hefyd y berthynas rhwng gwaith y dramodwyr hynny a'r cwmniau theatr a fu'n gyfrifol am lwyfannu'u gwaith; ac ystyrir hefyd gyfraniad a rhaglenni polisi y cyfarwyddwyr hynny a fu'n gyfrifol am gynnal y cwmniau cyfoes.
Bydd cryn son hefyd yn ystod y modiwl am rol hanesyddol a phriod swyddogaeth gyfoes y cyrff hynny sy'n gyfrifol am noddi'r theatr gyfoes, yn enwedig felly Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd disgwyl i'r myfyrwyr sy'n ymgymryd a'r modiwl hwn fod yn effro i faterion sy'n effeithio ar gyflwr a hynt y theatr gyfoes yng Nghymru: diau y cyfyd materion llosg yn ystod cyfnod dysgu'r modiwl a fydd yn dod yn bynciau trafod allweddol!
Ceisir sicrhau hefyd y bydd siaradwyr gwadd o gwmniau theatr Cymreig yn annerch y myfyrwyr yn rheolaidd yn ystod y cwrs, a gobeithir y bydd modd sicrhau papurau dadansoddiadol gwreiddiol oddi wrth y gweithredwyr hyn o bryd i'w gilydd.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Darlithoedd:

  1. Noddwyr y theatr gyfoes: Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol
  2. Ceri Sherlock: dilyniant, diwylliant a'r perfformiadol
  3. Theatr Gymraeg i Gymru Gyfan?: Theatr Genedlaethol Cymru
  4. Llais Newydd i'r Prif-ffrwd (i): Llwyfan Gogledd Cymru
  5. Llais Newydd i'r Prif-ffrwd (ii): Sgript Cymru
  6. Y Llinyn Arian: Theatr Felinfach
  7. Y Dramodydd yn ei Gell?: Sion Eirian, Cegin y Diafol
  8. Cadw Part y Bobl Bach?: Geraint Lewis, Ysbryd Beca
  9. Y Gymraes: Sera Moore-Williams, Mab
  10. Aled Jones Williams, Lysh

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe fydd ymchwil personol yn rhan bwysig o waith y myfyrwyr yn ystod y modiwl. Disgwylir iddynt sicrhau bod ganddynt fynediad i wybodaeth yngl¿n â rai o¿r materion diweddaraf o bwys yn y theatr gyfoes wrth iddynt baratoi ar gyfer seminarau, a bydd angen casglu a chrynhoi gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau er mwyn cyflawni hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol.
Datrys Problemau Ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatrys problemau fel y cyfryw, ond fe fydd yn siarsio¿r myfyrwyr i ddatblygu dulliau dadansoddiadol a fydd gymwys ar gyfer trafod materion cyfoes a chyfredol ym myd y theatr Gymraeg.
Gwaith Tim Fe rydd yr elfen o asesu cyflwyniad gr¿p gyfle i¿r myfyrwyr feithrin a datblygu¿r medrau hynny sy¿n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b..
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y gwahanol elfennau o¿r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Trefnwyd elfennau¿r asesiad fel ag i alluogi¿r myfyrwyr i fanteisio ar y broses o gyflwyno deunydd mewn gr¿p wrth iddynt baratoi eu gwaith unigol eu hunain tua diwedd y modiwl.
Sgiliau ymchwil Fe fydd ymchwil personol yn rhan bwysig o waith y myfyrwyr yn ystod y modiwl. Disgwylir iddynt sicrhau bod ganddynt fynediad i wybodaeth yngl¿n â rai o¿r materion diweddaraf o bwys yn y theatr gyfoes wrth iddynt baratoi ar gyfer seminarau, a bydd angen casglu a chrynhoi gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau er mwyn cyflawni hyn.
Technoleg Gwybodaeth Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o¿r modiwl, eithr disgwylir bod gan y myfyrwyr rywfaint o allu wrth brosesu geiriau erbyn y cyfnod hwn yn eu gyrfa golegol, ynghyd â¿r gallu i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
http://www.theatre-wales.co.uk
Argymhellir - Cefndir
Eirian, Sion (2001) Cegin y Diafol Canolfan Astudiaethau Addysg Chwilio Primo Jones Williams, Aled (2004) Lysh Theatr Bara Caws Chwilio Primo Lewis, Geraint (2001) Ysbryd Beca Sgript Cymru Chwilio Primo Moore-Williams, Sera Mab (ar gael oddi wrth yr Adran) Chwilio Primo Owen, Roger (2003) Ar Wasgar: Theatr a Chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979 -1997 Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Shade, Ruth (2004) Communication Breakdowns Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Sherlock, Ceri (2001) Diwylliant Cytun Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6