Module Information

Module Identifier
TC30120
Module Title
DADANSODDI A DAMCANIAETHAU CYNHYRCHIAD
Academic Year
2010/2011
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus yn y cyfryw gynlluniau gradd
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Portffolio adfyfyriol (yn gyfatebol a 2500 o eiriau)  50%
Semester Assessment Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Supplementary Assessment Portffolio adfyfyriol (2500 o eiriau) - (Gwaith newydd)  50%
Supplementary Assessment Traethawd (2500 o eiriau) - (Gwaith newydd)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos dealltwriaeth o swyddogaeth damcaniaeth wrth astudio theatr a pherfformop neu ffilm a'r cygryngau.

2. Trin a thrafod gwahanol theoriau a syniadau beirniadol yn hyderus ac yn addas.

3. Cymwyso theori critigol wrth astudio performiad theatrig neu gynhyrchiad cyfryngol.

Aims

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno syniadaeth allweddol ym meysydd y cyfryngau creadigol (perfformio a chyfryngau) gan ganiatau i'r myfyrwyr astudio cynyrchiadau mewn perthynas a'r theoriau hyn.

Nod y modiwl hwn fydd cynnig cyflwyniad i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyda'i gilydd o rai o'r meysydd theoretig pwysicaf a mwyaf amlwg eu dylanwad ar y cyfryngau a'r ymarferwyr y byddant yn eu hastudio yn ystod eu cwrs Gradd Anrhydedd.

Fe fydd y darlithoedd ar gyfer y modiwl yn canolbwyntio ar amlinellu amodau ac amcanion y meysydd theoretig hyn, tra bod y sesiynau gwylio yn rhoi cyfle iddynt ystyried i ba raddau y mae modd cymhwyso'r syniadau theoretig wrth ymateb i ddigwyddiadau cyfryngol a byw.

O ran hynny, fe fydd modd i'r myfyrwyr ddewis pa fath o ddeunydd y dymunant ei wylio: naill theatr a pherfformio byw neu ffilmiau, rhaglenni teledu a deunydd o'r cyfryngau newydd. Trafodir a ddadansoddir y gweithiau hyn ar wahan i'w gilydd mewn dau gyfres o seminarau.

Un o gonglfeini'r broses ddysgu ar y modiwl hwn fydd y tasgau cyfieithu deunydd theoretig a gynhelir yn y darlithoedd/seminarau: fe fydd y rhain yn cymella galluogi'r myfyrwyr i ystyried sut y mae cymhwyso terminoleg o wahanol fathau er mwyn ymateb yn ddeallus, yn ddadansoddiadol a chreadigol i'r deunydd theoretig a gyflwynir iddynt.

Brief description

Fe fydd y modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddod yn gyfarwydd a rhai o'r prif theoriau sydd yn sylfaen i astudio'r cyfryngau creadigol ac yn gyfle hefyd i gymwyso rhai ohonynt wrth astudio perfformiadau neu gynyrchiadau ffilm a chyfryngol.

Content

Yn ogystal a sesiwn gyflwyniadol a sesiwn grynhoi, fe fydd y modiwl yn cynnig sesiynau fel a ganlyn:

1. Sesiwn gyflwyniadol
2. Defnyddio Theori a Beirniadaeth wrth Astudio Cynyrchiadau
3. Marcsiaeth, y Chwith Brydeinig ac Astudiaethau Diwylliannol
4. Cenedl, Cenedligrwydd a Chenedlaetholdeb
5. Astudiaethau Rhywedd, Ffeminyddiaeth, Gwrywdodau a Theoriau Rhywioldeb
6. Ol-drefedigaethedd
7. Globaleiddio a'r Gymdeithas Rwydwaith
8. Dadansoddi Cynhyrchiad Perfformiadol neu Theatrig
9. Dadansoddi Cynhyrchiad Cyfryngol neu Ffilm
10. Sesiwn grynhoi

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ni ragwelir y bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau defnyddio gwybodaeth rifyddol.
Communication Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'u gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu eu cynnig mewn modd ble gall y myfyrwyr gyfrannu at drafodaeth. Rhydd hyn gyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu hasesiad llafar o flaen eu cyfoedion ac fe fyddant yn rhoi sylwadau ar y cynnwys a'r perfformiad. Bydd cyfle felly i'r myfyrwyr wella eu gwybodaeth o theoriau yn dilyn yr asesiad hwn.
Information Technology Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau sylfaenol technoleg gwybodaeth ar gyfer y modiwl hwn. Bydd cyfle i ddefnyddio meddalwedd penodol ae gyfer y cyflawniad llafar ond nid yw hynny'n angenrheidiol.
Personal Development and Career planning Disgwylir i fyfyrwyr wneud dewisiadau unigol ar y gwaith perfformiadol neu gynhyrchiad cyfryngol y maent am ganolbwyntio arnynt ar gyfer Aseiniad 3, gan gyfrannu at Ddatblygiad Personol. Nid oes sesiynau penodol ar gynllunio gyrfa ond wrth astudio perfformiadau a chynyrchiadau cyfoes, caiff y myfyrwyr gyfle i ddyfnhau eu gwybodaeth o ddiwydiant y cyfryngau creadigol.
Problem solving Disgwylir cyfle i fyfyrwyr arddangos ymwybyddiaeth o adnabod problemau a chanfod ffyrdd o'u datrys o fewn cyd-destun astudiaeth y modiwl.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ymhellach n achynnwys ffurfiol y darlithoedd er mwyn canfod deunydd priodol i gyflawni eu haseiniadau.
Subject Specific Skills
Team work Er mai yn unigol y caiff y gwaith asesedig ei farcio, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyfranogi at waith ei gilydd drwy gyflwyno sylwadau ar y cyfleyniad llafar yn benodol.

Notes

This module is at CQFW Level 6