Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr. 35 awr o ddarlithaedd yn Saesneg. 5 awr o ddarlithaedd yn Gymraeg. Tair darlith awr o hyd bob wythnos dros y ddau semester. |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr yn Gymraeg. 4 seminar awr o hyd bob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 Awr Prawf Cyfraith Tir | 10% |
Asesiad Semester | 1 traethawd 1000 gair i'w gyflwyno yn Semester 2 | 25% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr o hyd | 65% |
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Prawf Cyfraith Tir - os caiff y prawf ei fethu. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | 1 traethawd 1000 gair - os caiff y traethawd ei fethu. | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu. | 65% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifiad cryno
Mae tir yn nwydd gwerthfawr. Mae'r rheiny sy'n berchen ar dir yn dymuno cadw'u gafael arno. Mae'r rheiny nad oes tir ganddynt yn dymuno'i gael. Y gyfraith sy'n rheoli'r cysylltiadau hyn yw cyfraith tir. Mae pobl sy'n prynu tai a phobl sy'n berchen arnynt yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ac mae hyn hefyd yn wir am bobl sy'n rhentu tai a fflatiau. Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan a dw^r yn cael eu rheoli gan gyfraith tir. Mae pobl sy'n mynd i'r theatr neu'r rheiny sy'n hoff o fynd i wylio gemau pe^l-droed yn cael eu rheoli gan gyfraith tir, ynghyd a^ banciau a chymdeithasau adeiladu, cyplau priod a di-briod a pherchnogion rheiliau tywelion, ceffylau chwilfrydig a physt gatiau sia^p llew. Mae hyd yn oed gwyrddni parhaus y tir y tu allan i sinema'r Odeon yn Leicester Square yn Llundain yn cael ei reoli gan gyfraith tir. Yng ngoleuni hyn oll, bydd y modiwl hwn yn cynnwys ystyriaethau megis beth yw tir, pa elfennau sydd i gyfraith tir a sut gellir sicrhau, cadw neu golli hawliau a buddiannau sy'n ymwneud a^ thir.
Nod
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion sy'n rheoli'r broses o gaffael hawliau dros dir a chadw'r hawliau hynny. Ei nod felly yw esbonio'r ffordd y mae cytundeb rhwng un unigolyn a'r llall yn troi'n gytundeb sy'n arwain at fantais neu rwymedigaeth nid ar unigolyn ond yn hytrach ar rywun yn rhinwedd ei swyddogaeth fel perchennog ysta^d mewn tir. Yn unol a^ hyn, mae'r hyn sy'n cael ei sicrhau rhwng dau unigolyn dan gyfraith contract yn cael ei ail-greu dan gyfraith tir i greu hawliau a rhwymedigaethau a allai rychwantu cenedlaethau. Felly, nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniad tir a chaffael a ffurfioli hawliau sy'n ymwneud a^ thir unigolyn a thir sy'n eiddo i rywun arall. Ei nod yw rhoi cyfraith tir yng nghyd-destun hanes cyfreithiol Cymru a Lloegr a'r sefyllfa gyfredol o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Ei nod hefyd yw datblygu ffordd o gymhathu a chyflwyno gwybodaeth gyfreithiol, creu dadleuon rhesymegol a phrofedig a datblygu'r gallu i adnabod a chloriannu'r ffordd y mae'r gyfraith yn datrys problemau cymdeithasol gwirioneddol a chanfyddedig. Nod arall y modiwl hwn yw cyflwyno un o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i bob myfyriwr sy'n dymuno gweithio yn y proffesiynau cyfreithiol eu cael.
Cynnwys
- Cyflwyniad
- Beth yw Tir?
- Pa elfennau sydd i Gyfraith Tir?
- Perchnogaeth tir
- Hawliau dros dir sy'n berchen i rywun arall
- Cydnabod hawliau perchnogaeth ac amherchnogaeth
- Cydberchnogaeth
- Prydlesi
- Morgeisi
- Hawddfreintiau
- Cyfamodau
- Trosglwyddo
Llyfrau a Deunydd Darllen
Nid oes gwerslyfr penodol i'r modiwl hwn. Awgrymir rhai gwerslyfrau yn y darlithoedd sy'n rhan o'r modiwl, gan fod cyhoeddwyr yn aml yn cyhoeddi rhifynnau newydd o werslyfrau yn ystod yr haf. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr fynd a^ llyfr statudau i mewn i'r arholiad, ac mae'r canlynol yn enghreifftiau o destunau rhesymol. Pa werslyfr bynnag y penderfynwch ei brynu, dylech hefyd fwrw golwg dros rai o'r llyfrau eraill ar y rhestr, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd darllen arall y gallech fod wedi'i gael ar ffurf achosion, adroddiad ac erthyglau cyfnodolion.
Rhestr Ddarllen
HanfodolAbbey, R and Richards, M (2010) A Practical Approach to Conveyancing 12th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Clarke, A and Kohler, P (2006) Property Law Cambridge University Press Chwilio Primo Gray, Kevin J. and Gray, Susan F. (2009) Elements of Land Law 6th ed. Oxford University Press Chwilio Primo MacKenzie, J-A. and Phillips, M. (2010) Textbook on Land Law 13th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Stroud, April (2010) Making Sense of Land Law 3rd ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Cursley J, Davys M and Green K (2009) Land Law 6th ed. Palgrave Macmillan Limited Chwilio Primo Dixon, Martin (2010) Modern Land Law 7th ed. Routledge Chwilio Primo Harpum, C., Bridge, S. and Dixon, M. (2011) The Law of Real Property 8th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo Smith, Roger J. (2009) Property Law 6th ed. Longman Chwilio Primo Thompson, M.P. (2009) Modern Land Law 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6