Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 15 Hours. (15 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | ||
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- Deall a dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- Deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- deall a gwerthuso natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
-dadansoddi natur perthnasau rhyng-lywodraethol y Cynulliad gyda lefelau eraill o lywodraeth, yn enwedig lefel y DG a¿r Undeb Ewropeaidd
- ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol a natur diwylliant gwleidyddol yn y gyfundrefn ddatganoledig
- ystyried yn feirniadol yr argymhellion cyfredol ar gyfer datblygu datganoli i Gymru
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethol dddemocrataqiddatganoledig a sefydlwyd yng Nghymru ers 1999. Wedi trafod y cynlluniau blaenorol am ddatganoli bydd yn canolbwyntio ar y Cynulliad Cenedlaethol gan drafod gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth a threfniadau cyfansoddiadol y Cynullia. Bydd hyn yn rhoi sail i asesu'r goblygiadau am ddyfodol datganoli.
Nod
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.
Cynnwys
Datganoli : Y Cefndir Hanesyddol
Gor-olwg o'r ymdrechion hanesyddol am ddatganoli i Gymru
O Kilbrandon i Fethiant 1979
Atgyfodi'r freuddwyd: Y Llwybr i'r Cynulliad Cenedlaethol
Y Cynulliad Cenedlaethol
Y Cynllun Gwreiddiol: Deddf Llywodraeth Cymru 1998
Y Cynulliad yn Datblygu: 1999 - 2004
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Proses Bolisi'r Cynulliad
Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Y Cynulliad, y Wladwriaeth Brydeinig a'r Undeb Ewropeaidd
Diwylliant Gwleidyddol yng Nghymru wedi datganoli
Gwleidyddiaeth Etholiadol yng Nghymru wedi datganoli
Y Pleidiau Gwleidyddol wedi datganoli
Y Cynulliad a Chymdeithas Sifil yng Nghymru
Cynrychiolaeth a'r Cynulliad Cenedlaethol
Dyfodol Datganoli I
Dyfodol Datganoli II
Sgiliau trosglwyddadwy
10 Credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolLlywodraeth y Cynulliad (2004) Adroddiad Comisiwn Richard HMSO Chwilio Primo Chaney, P., Hall, T., Pithouse (gol) (2001) New Governance - New Democracy? Post Devolution Wales Gwasg Prfiysgol Cymru, Caerdydd Chwilio Primo Hazell R (gol) (2003) The state of the Nations: The Third Year of Devolution in the United Kingdom Llundain, UCL, Imprint Academic Chwilio Primo Morgan, Kenneth O. (1998) Rebirth of a nation :a history of modern Wales /Kenneth O. Morgan. Chwilio Primo Osmond J and Barry Jones, J (gol) (2003) Birth of Welsh Democracy: The First Term of the National Assembly Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig Chwilio Primo Rawlings, Richard. (2003) Delineating Wales :constitutional, legal and administrative aspects of national devolution /by Richard Rawlings. Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6