Module Information

Cod y Modiwl
CC18010
Teitl y Modiwl
DATBYGIAD PROFFESIYNOL A PHERSONOL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Ar gael i fyfyrwyr lefel 1 yn unig
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 21 x 1 hr
Darlithoedd 15 Darlith
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester CV a llythyr atodol  25%
Asesiad Semester Hyd at 5 o ymarferion ysgrifenedig un tudalen o hyd ynghyd a chyfraniadau i ddosbarthiadau tiwtorial  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad Unigol  (asesir gan staff a chymhreriaid)  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp  (asesir gan staff a chymhreriaid)  25%
Asesiad Ailsefyll CV a llythyr atodol  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol  50%

Canlyniadau Dysgu

O gwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyriwr fedru:

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

cynllunio CV priodol

dangos sgiliau sylfaenol rheoli amser a gweithio mewn tim

adolygu'n feirniadol ei b/pherfformiad ei hun

defnyddio deunydd cyfrifiadurol i ategu astudio yn y brifysgol

cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol

Disgrifiad cryno

Mae pob myfyriwr Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd yn y flwyddyn gyntaf yn astudio'r modiwl hwn; y mae'n cynnig fforwm ar gyfer dysgu holl fyfyriwr y flwyddyn gyntaf gyda'i gilydd mewn un grwp.

Mae'r modiwl yn ymdrin a deunydd nas trafodir mewn modiwlau penodol eraill ond sy'n hanfodol er mwyn gwerthfawrogi pob agwedd ar y maes yn well.

Mae sgiliau personol trosglwyddadwy yn rhinwedd bwysig ar gyfer unrhyw beiriannydd meddalwedd ac yn ffurfio rhan bwysig o'r modiwl hwn.

Mae'r system fugeilio a thiwtora gyffredinol ar gyfer myfyrwyr ar y cynlluniau gradd hyn yn cael ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ymdrin a deunydd hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel pobl broffesiynol yn eu maes. Datblygir ystod o sgiliau personol trosglwyddadwy o werth cyffredinol yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn cynnig cyngor ar baratoi curriculum vitae ar gyfer sicrhau blwyddyn mewn gwaith.

Mae'r modiwl yn darparu gofal bugeiliol a thiwtorial cyffredinol ynghyd a fforwm ar gyfer dysgu'r myfyrwyr hyn mewn un grwp.

Cynnwys


1. Cynllunio Cyflwyniad : 1 ddarlith
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.

2. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel : 1 ddarlith
Cyflwyniad gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.

3. Sut i ysgrifennu Saesneg Da : 2 ddarlith
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.

4. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol : 1 ddarlith
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.

5. Rheoli Amser : 1 ddarlith
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.

6. Rheoli grwp : 1 ddarlith
Sut i weithio'n effeithiol mewn tim.

7. Cyfeirio a dyfynnu : 1 ddarlith
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad.

8. Materion Rhyngwyneb Defnyddiwr : 1 ddarlith
Cynllunio wedi ei ganoli ar y defnyddiwr.
Rheolau Schneidermann. Egwyddorion Norman.

9. Techneg Arholiadau : 1 ddarlith
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.

10. Dosbarthiadau Tiwtorial : 10 wythnos
Bydd gofyn i bob myfyriwr baratoi a rhoi cyflwyniadau ac arddangosiadau ar bapurau o'r deunydd darllen technegol ac ar agweddau penodol ar systemau medalwedd yr ymdrinnir a hwy yn y darlithoedd.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4